Rhyngwladol

  • Myfyrwyr Rhyngwladol sy'n dod i Brifysgol Abertawe

    Astudio

    Rydym ni'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau - o gyrsiau Sylfaen, Israddedig, cyrsiau Meistr a addysgir i Ymchwil. Cewch ddysgu mwy yn yr adran hon. Cewch hefyd fwy o wybodaeth gyffredinol am astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Ewch at dudalen gartref Myfyrwyr rhyngwladol am fwy o fanylion.

    Darllenwch fwy (Saesneg)

    Bywyd Myfyriwr

    Perffaith i fyw ac astudio ynddo. Dysgwch fwy am y llety, y cyfleusterau a'r ardal leol. Ewch i dudalen gartref Myfyrwyr Rhyngwladol am fwy o wybodaeth.

    Darllenwch fwy (Saesneg)

    Gyrfaoedd

    Mae gwella rhagolygon gyrfa a chyflogadwyedd ein myfyrwyr yn flaenoriaeth i Brifysgol Abertawe. Mae gennym Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ardderchog, cysylltiadau gyda diwydiant, a hyd yn oed cyfleoedd preswyl dramor. Cewch fwy o fanylion yma, a pheidiwch chwaith ag anghofio ymweld â thudalen gartref Myfyrwyr Rhyngwladol.

    Darllenwch fwy (Saesneg)

    Eich Gwlad

    Cliciwch ar ein map rhyngweithiol ar dudalen gartref Myfyrwyr Rhyngwladol i gael hyd i'ch gwlad. Bydd yma wybodaeth fwy penodol a pherthnasol i chi yngl?n ag astudio yn Abertawe.

    Darllenwch fwy (Saesneg)

  • Cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr presennol

    Astudio Dramor

    Bydd cyfle i fwyafrif myfyrwyr Prifysgol Abertawe i gael gweithio dramor, fel rhan o'u gradd. Ewch at y tudalennau Astudio Dramor am ragor o wybodaeth. Gellir cael gwybodaeth am gyfleoedd eraill o'r Swyddfa Datblygu Ryngwladol, ar y dudalen gartref.

    Darllenwch fwy

    Gweithio Dramor

    Mae ennill profiad gwaith a sgiliau cyflogadwyedd  yn dod yn gynyddol bwysig i raddedigion. Ym Mhrifysgol Abertawe ein nod yw cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i'n myfyrwyr.  Dysgwch fwy am y cyfleoedd presennol sydd ar gael i weithio dramor. Mae gwybodaeth am gyfleoedd rhyngwladol pellach ar gael ar y wefan.

    Darllenwch fwy

    Rhaglenni Haf

    Nid pob myfyriwr sydd ar, neu sy'n medru, treulio cyfnod estynedig dramor. Ond maent hefyd yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd rhyngwladol, fel pawb arall. Mae ein Rhaglenni Haf Tramor yn ffordd berffaith o ateb y galw hwn. Ewch at ein tudalen gartref am gyfleoedd eraill.

    Darllenwch fwy

    MYND YMHELLACH....

    Credwn y dylai pob myfyriwr fynd ymhellach gyda'u gradd brifysgol. Nod y tîm astudio a gweithio dramor yw cynnig cyfleoedd parhaus i'n myfyrwyr gyflawni mwy, a hynny ar lwyfan rhyngwladol. Darllenwch am brofiadau ein cyn-fyfyrwyr ac fe gewch chi eich ysbrydoli i FYND YMHELLACH...

    Darllenwch fwy

  • Newyddion ryngwladol

  • Cysylltu â ni

    International Development Office
    Adran Marchnata
    Parc Singleton
    Abertawe
    Cymru, DU
    SA2 8PP

    Ffôn: 00 44 (0) 1792 602365
    Ffacs: 00 44 (0) 1792 295839
    Ebost: international@swansea.ac.uk