- Hafan
- Y Brifysgol
- Cynaliadwyedd
Cynaliadwyedd
O ddifrif am ein cyfrifoldebau
Cynaliadwyedd
Mae gan brifysgolion ran bwysig i'w chwarae wrth hyrwyddo ac arfer cynaliadwyedd.
Erbyn hyn mae arferion cynaliadwy yn gynyddol yn cael eu prif-ffrydio yn y sector Addysg Uwch. Mae gan Abertawe eisoes lawer iawn o brofiad o reoli ymchwil blaengar i gynaliadwyedd ac yn arwain y ffordd o ran nifer yr arloesiadau a gyflwynwyd ar y campws. Er enghraifft, y Brifysgol hon oedd yr un gyntaf yng Nghymru i ennill statws Masnach Deg ac mae ymrwymiad y staff i leihau gwastraff hefyd yn uchel - mae'r Brifysgol wedi cynyddu ei pholisi ailgylchu ac mae yna fannau casglu ar gyfer papur gwastraff nawr ym mhob adran.
Mae gan is-adran Arlwyo campws y Brifysgol ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd ac mae wedi cyhoeddi Sustainable Catering Policy pdf) yn ddiweddar.
Ymhlith mentrau eraill ceir:
- Troi olew llysiau a ddefnyddiwyd ar y campws yn fiodiesel yn lleol
- Polisïau caffael cynaliadwy
- Arferion cynaliadwy wedi'u hymgorffori mewn adeiladau newydd (e.e. cyfnewidfa geothermol yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd)
- Map Teithio Amgen newydd (cliciwch yma i'w lawrlwytho)
- CAR Cymru - Canolfan Ranbarthol Arbenigedd ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Efallai y byddai o ddiddordeb i chi hefyd ddarllen mwy am y canlynol:
- Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) yn y Brifysgol
- Polisi Amgylcheddol Prifysgol Abertawe
- Masnach Deg ym Mhrifysgol Abertawe
- Fforwm Cynaliadwyedd Abertawe
