Ble rydym ni o ran ein taith di-garbon?
Yn 2019, ymrwymodd y Brifysgol i fod yn ddi-garbon erbyn 2035, o ran ynni ar y campws a'n cerbydlu, ac i gyflawni gostyngiad o 50% yn ein hallyriadau anuniongyrchol o'n cadwyn gyflenwi, teithio a gwastraff.
Rydym wedi cychwyn yn gadarnhaol yn bendant, wedi cyflawni gostyngiad o 34% mewn allyriadau ynni ar y campws ac o'n cerbydlu (ers 2015), a buddsoddi tua £3 miliwn mewn prosiectau datgarboneiddio yn y tri mis diwethaf.
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf am rai o'r camau gweithredu pwysig a gymerwyd gan y Brifysgol i ddatgarboneiddio ein campysau dros y 12 mis diwethaf.
Camau Gweithredu Allweddol ar yr Hinsawdd
- 1800 o baneli solar newydd wedi'u gosod ar doeau ar y ddau gampws, gan leihau'r angen i ddefnyddio trydan o'r grid. Ar hyn o bryd rydym yn comisiynu mesuryddion i olrhain ynni trydanol a gynhyrchir.
- 3 thyrbin gwynt llorweddol newydd ar do adeilad newydd CISM, i gynhyrchu trydan, lleihau allyriadau carbon o drydan o'r grid a chefnogi gwaith datblygu ac ymchwil gan Crossflow Energy ym Maglan.
- Ein Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer cyntaf yn adeilad Haldane, gan ddileu'r angen i ddefnyddio nwy i wresogi'r adeilad.
- Diweddarwyd systemau goleuadau ar Gampws Singleton drwy osod dros 7,500 o oleuadau LED â rheolyddion awtomatig i leihau costau gweithredu ac allyriadau carbon. Ar Gampws y Bae, rydym wedi gosod lampau LED ar golofnau’r goleuadau stryd allanol hefyd.
- Rhoddwyd Polisi Cerbydau Trydan a Gwefru ar waith i sicrhau nad oes dim allyriadau carbon o'n cerbydlu ac i ddarparu cyfarpar gwefru cerbydau trydan ar y campws.
- Ffenestri Gwydr Dwbl Ynni-Effeithlon wedi'u gosod drwy gydol Adeilad Haldane.
- Wedi Cyfrannu at Adroddiad Jiwbilî Blatinwm y Frenhines, 'Accelerating the UK Tertiary Education Sector Towrards Net Zero'.
- Wedi hyfforddi staff a myfyrwyr mewn llythrennedd carbon.
- Wedi gosod system batris solar a gwefru ceir ar gyfer pum cerbyd ger Y Twyni ar Gampws y Bae.
- Wedi lleihau allyriadau carbon ein cerbydlu 66% (ers 2015) a bellach mae gennym 11 man gwefru ar ein campysau.
Beth nesaf?
Yn y misoedd i ddod, mae'r Brifysgol yn bwriadu newid o wresogi nwy ar y campws i ddewisiadau gwyrddach megis systemau pwmp ffynhonnell aer.
Rydym hefyd yn datblygu cynlluniau i gyflwyno cais am achrediad cynaliadwyedd gweddnewid (RICS SKA neu BREEAM) ar gyfer y gwaith i ailddatblygu Tŷ Fulton.
Sut gallwch chi helpu?
Mae lleihau ein hallyriadau carbon yn dasg enfawr ac mae angen eich help chi arnon ni. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi cynaliadwyedd yn Abertawe, o gofrestru am ein rhaglen gwobrwyo cynaliadwyedd ar gyfer staff a myfyrwyr, SWell, i ymuno â'n Rhwydwaith Diogelwch a Chynaliadwyedd i staff, i gymryd rhan yn ein digwyddiadau a gwirfoddoli - mae ein gweithredoedd unigol yn gwneud gwahaniaeth!
Gallwch ddysgu rhagor am ein hymrwymiadau i'r argyfwng hinsawdd a'n cynnydd yma.
Oes gennych chi syniadau am sut gallwn leihau ein hallyriadau carbon ar y campws?
Cysylltwch â'r tîm Cynaliadwyedd.