Mae gwylanod bob amser wedi bod yn beth cyffredin i'w weld mewn ardaloedd arfordirol fel Abertawe, ac wrth i ni fel pobl dresmasu ar eu cynefin naturiol, maent yn dod o hyd i leoedd dyfeisgar er mwyn nythu a magu eu cywion. Mae adeiladau yn lleoedd amgen delfrydol ar gyfer clogwyni nythu ac o ganlyniad i'n natur wastraffus ninnau, mae dinasoedd yn llawn cyfleoedd i ddod o hyd i fwyd ar gyfer yr anifeiliaid addasadwy hyn.
Mae gennym dair rhywogaeth sy'n nythu ar doeau Campws Singleton; gwylanod y penwaig, gwylanod cefnddu bach a gwylanod cefnddu mwyaf. Ar y golwg cyntaf, maent yn edrych yn debyg iawn - allwch chi weld y gwahaniaeth?
Pob llun © Andreas Trepte http://www.photo-natur.net/
Mae gwylanod yn byw am amser hir (tua 30 o flynyddoedd), maent yn unweddog ac, yn gyffredinol, maent yn paru am oes a phrin yw ysgaru yn eu plith. Maent yn ailsefydlu perthnasoedd yn gynnar yn y gwanwyn, gan drwsio neu'n ailadeiladu nythod ym mis Ebrill a dodwy wyau yn gynnar ym mis Mai. Mae adar mewn ardaloedd trefol yn gwneud nythod y byddant yn eu defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae'r adar ifanc yn cyrraedd ym mis Gorffennaf/Awst.
Mae gwylanod yn y Deyrnas Unedig wedi'u diogelu gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981). Bydd unrhyw un sy'n lladd, yn anafu neu'n cymryd aderyn, yn achosi difrod i'w nyth neu'n dinistrio ei wyau heb drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru'n euog o dramgwydd a gallai wynebu mynd i'r carchar a dirwy drom.
Y TYMOR NYTHU – YR HYN I'W DDISGWYL:
Gellir rhannu tymor nythu gwylanod ym mhum cyfnod gorymylol fel a ganlyn:
1. Adeiladu Nythod a Dodwy Wyau (Ebrill-Mai)
Nid yw nythod gwylanod yn adeileddau cymhleth iawn. Maent yn bentwr o frigau, cerrig mân a mwsogl, lle caiff dau neu dri o wyau eu dodwy yn gynnar ym mis Mai. Weithiau, caiff nythod eu dinistrio gan dywydd gwyntog. Os ydych chi'n digwydd gweld nyth wedi'i ddifrodi, peidiwch â phoeni. Mae'n debygol y bydd y gwylanod yn rhoi cynnig arall arni.
2. Gwylanod Bach a Chywion Pluog (Mai - Mehefin)
Mae angen cynhesrwydd eu rhieni gyda'r nos ar gywion bach iawn (hyd at dridiau o oed) a bydd angen mynediad i'w nyth arnynt gan eu bod yn ddiamddiffyn iawn ar yr adeg hon. Nid oes rhaid i gywion sy'n hŷn na thridiau fynd yn ôl i'r nyth. Ar ôl y dyddiau cynnar hyn, maent yn datblygu i fod yn brysur iawn, gan archwilio'r toeau, a gall rhai syrthio i'r ddaear. Maent yn hynod wydn (gan esblygu i nythu ar glogwyni'r môr) a gallant oroesi ar ôl syrthio pellter hir, er syndod i ni. Pan fyddant yn rhieni, mae gwylanod yn ofalgar ac yn amddiffynnol iawn a byddant yn gwneud popeth y gallant er mwyn darparu bwyd, diod a diogelwch i'w cywion, hyd yn oed ar y ddaear (gweler isod).
3. Cywion Adar (a phlu rhannol) (Mehefin-Gorffennaf)
Wrth iddynt ddechrau tyfu plu, mae cywion yn datblygu i fod yn fwy anturus a gallant roi cynnig ar hedfan. Yn anochel, bydd rhai cywion yn diweddu lan ar y ddaear o ganlyniad. Peidiwch â cheisio achub neu fwydo'r cyw. Mae'n well ei adael, oni bai ei fod wedi ei anafu neu ei fod mewn lleoliad peryglus, fel heol brysur (ac yn yr achos hynny, gallwch ei symud i leoliad mwy diogel gerllaw). Bydd y rhieni yn parhau i amddiffyn a bwydo eu cywion a gallant ymosod arnoch mewn ymgais i amddiffyn eu cywion.
4. Adar Ifanc (a phlu llawn ac wedi datblygu'n llawn) (Gorffennaf-Awst)
Gellir adnabod adar ifanc gan fod blaenau eu hadenydd yn gorymylu ar waelod eu cynffonau. Yn debyg i bob aderyn ifanc, maent yn aflwyddiannus yn aml wrth geisio hedfan am y tro cyntaf a gallant lanio ar y ddaear. Dylid gadael adar ifanc hyd yn oed os ydynt ar y ddaear, oni bai eu bod wedi'u hanafu neu eu bod mewn lleoliad peryglus fel heol brysur (ac yn yr achos hynny, gallwch eu symud i leoliad mwy diogel gerllaw). Yn gyffredinol, bydd rhieni'n parhau i fwydo adar ifanc am ychydig o wythnosau ond, yn aml, byddant yn cadw bwyd yn ôl mewn ymgais i'w hannog i hedfan yn ôl lan atynt. Mae hyn yn naturiol a bydd yr adar ifanc yn swnllyd iawn wrth erfyn eu bwyd.
5. Damweiniau Wrth Hedfan (Awst-Medi)
Y cam olaf yw pan fydd yr adar ifanc yn hedfan ac yn ymgyfarwyddo â'u hadenydd. Gall hyn arwain at amrywiaeth o ddamweiniau, fel hedfan i mewn i ffenestri neu fynd yn sownd mewn rhwydi ar y to. O ganlyniad, gallant ddioddef pob math o anafiadau.
Pryd i Gymryd Rhan
1. Cywion wedi'u gadael
Mae gwylanod yn rhieni hynod amddiffynnol ac fel arfer, byddant yn parhau i fwydo a gwarchod eu hadar bach, hyd yn oed ar ôl iddynt syrthio o'r nyth. Os ydych chi'n poeni bod cyw wedi'i adael, gallwch gynnig powlen o ddŵr (yn enwedig yn ystod tywydd poeth) ac yna gwylio o bell. Os byddwch yn ei weld yn ysgarthu, mae hynny'n arwydd dda ei fod yn derbyn bwyd o hyd. Dim ond os byddwch chi'n siŵr wedi 24 awr ei fod wedi'i adael y dylech chi ystyried ymyrryd. Bydd angen gofal arbenigol ar gywion sy'n eu hatal rhag mynd yn gyfarwydd â phobl ac mae gan Ysbyty Adar Penrhyn Gŵyr (01792 371630) yr arbenigedd i ymdrin â hwy. Mae'n debygol y byddant yn gofyn i chi fynd â'r aderyn i Ysbyty Adar Penrhyn Gŵyr gan fod adnoddau prin iawn yno i gynnig casgliadau.
2. Adar wedi'u hanafu neu mewn perygl ar y ddaear
Bob blwyddyn, bydd cywion gwylanod yn syrthio o adeiladau i doeau is neu i'r ddaear. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn goroesi ac yn parhau i gael amddiffyniad a bwyd gan eu rhieni. Mae'n gyffredin i wylanod ifanc alw am eu rhieni, gan nadu a chrïo. Mae hyn yn hollol naturiol ac nid yw'n arwydd eu bod mewn trafferth. Mae pob gwylan ifanc yn gwneud hyn – does dim angen poeni. Fel rheol gyffredinol, mae anifeiliaid gwyllt yn tueddu osgoi gwneud sŵn pan fyddant wedi'u hanafu i osgoi denu ysglyfaethwyr. Gallwch gynnig powlen o ddŵr ond peidiwch â cheisio achub neu fwydo'r cyw. Mae'n well i'w adael oni bai ei fod wedi'i anafu neu ei fod mewn lleoliad peryglus fel heol brysur (ac yn yr achos hwnnw, gallwch ei symud i leoliad mwy diogel gerllaw). Os ydych chi'n mynd yn agos at gyw, mae'n debygol y bydd hyn yn sbarduno ymateb amddiffynnol gan y rhieni. Gall galwadau o rybudd arwain at yr adar yn ymosod arnoch o'r awyr. Mae ymbarél yn cynnig amddiffyniad da rhag rhieni amddiffynnol! Serch hyn, gofynnir i chi wneud hyn dim ond os ydych chi'n credu ei bod yn angenrheidiol a'i bod yn ddiogel i chi wneud hynny. Peidiwch byth â rhoi eich hunain mewn perygl. Yn gyffredinol, nid yw'n syniad da ceisio rhoi cyw yn ôl yn ei nyth. Yn ogystal â'r tebygrwydd y bydd yn syrthio eto, mae'n bosib y bydd gwylanod eraill yn ymosod arno os caiff ei roi yn y nyth anghywir. Nid yw'r Brifysgol yn rhoi cywion yn ôl ar doeau ac felly peidiwch â cheisio gwneud hynny chi'ch hun. Efallai y byddwch yn poeni am berygl i adar ifanc ar y ddaear gan ysglyfaethwyr. Mae gwylanod yn gallu gyrru ysglyfaethwyr i ffwrdd yn llwyddiannus ond, yn anochel, caiff rhai adar ifanc neu rai sydd wedi'u hanafu eu dal. Efallai y bydd hyn yn ymddangos yn greulon ond mae'n hollol naturiol – bydd gan yr ysglyfaethwyr eu plant eu hunain i’w bwydo hefyd. Ni fydd canolfannau achub fel arfer yn cymryd adar ifanc i mewn oherwydd bod ysglyfaethwyr ar hyd y lle'n unig. Mae'n rhaid i ganolfannau achub ac elusennau flaenoriaethu'r cywion sydd wedi'u hanafu gan nad yw'r cyfleusterau ar gael i gymryd miloedd o adar ifanc bob blwyddyn ar draws y DU. Os ydych chi'n ystyried bod yr wylan wedi'i anafu a bod angen triniaeth filfeddygol arno, ffoniwch eich milfeddyg lleol neu Ysbyty Adar Penrhyn Gŵyr (0300 1234999). Yn fwy na thebyg, byddant yn gofyn i chi fynd â'r aderyn yno yn bersonol.
3. Adar wedi'u maglu
Gall cywion a gwylanod gael eu maglu mewn lleoedd cyfyngedig neu mewn rhwydi ar draws y campws. Nid yw rhwydo'n ymarfer safonol a chaiff ei osod ar adeiladau i atal nythu dim ond pan; fydd planhigyn ar y to y mae angen ei amddiffyn, neu i leihau aflonyddwch pan fydd angen mynediad rheolaidd i'r to. Pan fydd rhwydi wedi eu gosod yn gywir, ni ddylent fod yn fygythiad i fywyd gwyllt, ond mewn amgylchiadau prin, mae'n bosib y gall adar fynd yn sownd. Dylech adrodd am unrhyw adar sydd wedi'u maglu wrth y Ddesg Gymorth cyn gynted ag y bo modd a byddwn yn mynd yno cyn gynted ag y gallem gael aelod o staff cymwys i'r lleoliad.
4. Bwydo cywion
Nid yw gwylanod yn bwydo eu cywion mor aml ag y byddai adar yn yr ardd. Er enghraifft, gallai titw tomos las fwydo ei gywion mor aml â phob 5 munud neu fwy. Mae gwylanod yn rhoi bwyd i'w cywion 3 i 6 gwaith y dydd, yn bennaf yn gynnar yn y bore, yn hwyr yn y prynhawn ac yn y noswaith. Yn aml, gall pobl feddwl nad yw cywion ac adar ifanc yn cael eu bwydo gan nad ydynt wedi gweld eu rhieni yn dod i'r aderyn ifanc drwy'r dydd. Os yw'r rhieni ar y to uwchben ac mae aderyn ifanc ar do is neu ar y ddaear, fel arfer byddant o hyd yn dod i lawr i’w fwydo. Mae gwylanod yn rhieni ardderchog ac nid ydynt yn gadael eu hadar bach yn rhwydd. Os byddwch yn gweld cyw'n ysgarthu, mae hynny'n arwydd dda ei fod yn derbyn bwyd o hyd. Gall bwydo â llaw neu adael bwyd i'r cyw arwain at wylanod aeddfed eraill yn ymosod ar yr aderyn ifanc am eu bod nhw hefyd am y bwyd, a gall arwain at riant yr aderyn ifanc yn ymosod arnoch chi. Mae hefyd yn arwain at yr aderyn yn mynd yn gyfarwydd â phobl a'u cysylltu â bwyd, gan arwain at broblemau'n hwyrach yn eu bywydau – peidiwch byth â bwydo gwylanod na'u cywion.
5. Darparu dŵr
Mewn cyfnodau poeth iawn neu gyfnodau lle mae'r haul yn gryf am amser hir, neu os oes gennych bryderon y gadawyd cyw, cynnig dŵr glân i’w yfed yw'r peth mwyaf defnyddiol y gallwch ei wneud. Rhowch fowlen neu soser o ddŵr o dan gysgod gerllaw, ac ychwanegwch ddŵr glân bob dydd. Rhagor o wybodaeth os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol sy'n ymwneud â gwylanod (neu fywyd gwyllt arall) ar y campws, cysylltwch â'r Swyddog Bioamrywiaeth.