Amodau a Thelerau Llawn
Gwobr Gelf Dau ar Bymtheg - Amodau a Thelerau ar 1 Ionawr 2021
Amodau a Thelerau Cyffredinol
1. Mae'r amodau a'r telerau'n ymwneud â chystadleuaeth o'r enw 'DAU AR BYMTHEG' y mae'r Tîm Cynaliadwyedd yn bwriadu cynnal yn ystod 2021 mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, ei thrwyddedigion, ei haseiniaid, ei rhiant-gwmnïau, ei chwmnïau cysylltiedig a/neu ei his-gwmnïau priodol, ac o'r gystadleuaeth honno bydd y Brifysgol yn dewis nifer amhenodol o weithiau i'w harddangos mewn mannau ac ar adegau y bydd y Brifysgol yn eu cadarnhau.
2. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, (mae'r ymgeisydd) yn derbyn yr amodau a'r telerau hyn fel y'u nodir isod a hefyd mae'r ymgeisydd yn derbyn y gallai'r Brifysgol newid, diwygio, amrywio neu addasu amodau a thelerau'r gystadleuaeth hon ar unrhyw adeg cyn ac yn ystod gwaith dyfarnu terfynol y gystadleuaeth. Mae'r ymgeisydd hefyd yn derbyn y gellir gwneud y newidiadau, y diwygiadau neu'r amrywiaethau hynny ar lafar neu'n ysgrifenedig, a disgresiwn y cwmni fydd yn pennu'r amodau a'r telerau ar bob adeg.
Amodau a Thelerau Cyflwyno Cais
3. Mae'r Gystadleuaeth ar agor i bawb a fydd yn 16 neu 17 oed ar 31ain Awst 2021.
4. Bydd y gystadleuaeth yn agor am 7am ar 1af Hydref 2021 ac yn cau am hanner nos ar 31ain Rhagfyr 2021. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a'r amser hwn eu hystyried yn rhan o'r gystadleuaeth dan unrhyw amgylchiadau. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl, yn unol â'i disgresiwn llwyr, i estyn dyddiad cau'r gystadleuaeth am gyfnod rhesymol, ac os bydd yn ei estyn fel hynny, y dyddiad cau dilynol fydd y dyddiad cau er dibenion yr amodau a'r telerau hyn.
5. Er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, bydd pob ymgeisydd yn cwblhau ffurflen ar-lein drwy Microsoft ac yn dilyn yr holl gyfarwyddiadau yno.
6. Rhaid i'r cais a gyflwynir fod yn wreiddiol. Rhaid i'r gwaith ysgrifenedig fod o leiaf 50 o eiriau heb fod yn hwy na 300 o eiriau. Rhaid i'r gwaith a ddewisir i'w arddangos fod ar gael rhwng Chwefror 1af 2022 a 30ain Medi 2022. Er bydd Prifysgol Abertawe'n ymdrechu i roi rhybudd ymlaen llaw i bob ymgeisydd o ran dyddiadau allweddol a llinellau amser, mae Prifysgol Abertawe'n cadw'r hawl i wneud newidiadau i ddyddiadau allweddol y bydd eu hangen yn rhesymol.
7. Gallai trydydd parti (e.e. athro ysgol, cynrychiolydd arall) gyflwyno gwaith ar ran yr ymgeisydd, ond mae'n rhaid i'r trydydd parti gadarnhau: a. ei fod wedi derbyn caniatâd yr artist, a darparu tystiolaeth o'i awdurdod llawn a'i hawl gyfreithiol i gyflwyno'r gwaith, ac; b. er mwyn darparu'r wybodaeth ynglŷn â'r artist neu waith yr artist, mae wedi ymgynghori â'r artist yn gyntaf, wedi gwneud pob ymholiad priodol er diben darparu'r wybodaeth honno ac wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau cywirdeb yr holl wybodaeth a ddarperir, a: c. chytuno i lynu wrth yr Amodau Derbyn hyn, fel y byddai'r artist pe tasai wedi cyflwyno cais.
8. Ni fydd gwaith nad yw'n cyd-fynd â'r Amodau Derbyn hyn yn dderbyniol, ac ni chaiff ei ystyried i'w gynnwys na'i arddangos. Prifysgol Abertawe yn unig fydd â'r disgresiwn llawn dros bob cwestiwn o ran derbynioldeb unrhyw waith, neu fel arall. Dyma enghreifftiau o waith annerbyniol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): a. Copïau o waith gwreiddiol; b. Gwaith sy'n groes i hawlfraint (neu waith sy'n creu risg o fynd yn groes i hawlfraint yn nhyb rhesymol y Cwmni); c. Gweithiau sydd wedi cael eu harddangos o'r blaen; ch. Mae'r gwaith yn anghyflawn; d. Gwaith sy'n debygol o fynd yn groes i'n gwerthoedd yn nhyb rhesymol Prifysgol Abertawe.
9. Mae gan ymgeiswyr hawl i dynnu eu cais yn ôl ar unrhyw adeg hyd at hanner nos ar 14eg Ionawr 2022. Rhoir gwybod i ymgeiswyr buddugol erbyn 14eg Chwefror 2022 a bydd ganddynt tan 14eg Mawrth 2022 i dynnu eu cais yn ôl. Ar ôl cyhoeddi'r ceisiadau buddugol a dosbarthu'r gwobrau ariannol, ni fydd hawl i dynnu cais yn ôl. Mae pob ymgeisydd yn cadw'r hawl i gymryd rhan yn y sesiwn ffotograffiaeth broffesiynol.
10. At hynny, mae Prifysgol Abertawe'n cadw'r hawl i anghymhwyso gwaith pan, yn nhyb rhesymol y Cwmni: a. Nid yw'r gwaith yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf. b. Ni ellir cysylltu â'r ymgeisydd; c. Nid yw'r ymgeisydd yn ymateb ymhen 72 awr ar ôl i Brifysgol Abertawe gysylltu ag ef.
11. Mae'r gystadleuaeth ar agor i berthnasau a chysylltiadau cyflogeion Prifysgol Abertawe.
Beirniadu
12. Penodir y beirniaid gan y Tîm Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn pennu'r nifer a'r cymhwyster sy'n weddus yn ôl ei ddisgresiwn ef yn unig. Bydd penderfyniad y Beirniaid yn derfynol, ac ni fyddant yn gohebu amdano. Wrth feirniadu, ni fydd gwahaniaethu o ran genre neu arddull etc, bydd un enillydd o bob un o 17 thema Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ac un enillydd cyffredinol.
Arddangosfa
13. Bydd Prifysgol Abertawe yn ymdrechu i hysbysu'r ymgeiswyr buddugol a fydd yn cael gwahoddiad i gael arddangos eu gwaith ar 14eg Chwefror 2022 neu'n fuan ar ôl hynny neu ar ddyddiad arall y bydd y Brifysgol yn ei ddethol â'i ddisgresiwn llwyr (y "Dyddiad Hysbysu"). Bydd Prifysgol Abertawe yn paratoi'r holl waith ar gyfer yr arddangosfa heb gost ychwanegol i'r ymgeisydd.
14. Bydd deunydd yr arddangosfa yn aros yn eiddo Prifysgol Abertawe a gellid ei ddefnyddio mewn arddangosfa yn y DU ehangach.
15. Cysylltir ag ymgeiswyr sy'n cael eu dewis yn fuddugol a nifer o ymgeiswyr eraill, a gofynnir iddynt gymryd rhan mewn sesiwn ffotograffiaeth broffesiynol. Mae ymgeiswyr yn cadw'r hawl i wrthod elfen sesiwn ffotograffiaeth y gystadleuaeth, heb gael eu gwahaniaethu.
16. Bydd Prifysgol Abertawe yn ymdrechu i drefnu taith arddangos ar gyfer y gwaith detholedig mewn mannau ac ar adegau i'w cadarnhau. Bydd pob penderfyniad o ran hynny yn ôl disgresiwn Prifysgol Abertawe yn unig. Nid yw Prifysgol Abertawe yn datgan nac yn gwarantu dim byd o ran bwriadau ynghylch yr Arddangosfa.
17. Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am dalu eu holl gostau a threuliau teithio os byddant yn dymuno mynd i'r Arddangosfa neu'r Arddangosiad Preifat neu unrhyw elfen ar hynny, oni bai fod Prifysgol Abertawe yn cytuno fel arall.
18. Ni fydd gwaith wedi'i ddethol ar gyfer yr arddangosfa ar gael i'w werthu. Bydd yr holl waith a gynhyrchir ar gyfer yr arddangosfa yn aros yn eiddo Prifysgol Abertawe, oni bai y cytunir fel arall â'r ymgeisydd. Bydd ymgeisydd sy'n cymryd rhan yn y sesiwn ffotograffiaeth yn cael cynnig copi personol o'i waith ei hun.
19. Mae Prifysgol Abertawe yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i'r gystadleuaeth, neu dynnu gwaith yn ôl o'r gystadleuaeth neu'r arddangosfa os bydd hi'n ymddangos i Brifysgol Abertawe am unrhyw reswm y bydd y gwaith, neu amgylchiadau o ran arddangos y gwaith, yn ei rhoi mewn perygl o weithrediadau cyfreithiol, niwed i'w henw da neu golled bosibl arall neu os bydd y gwaith yn niweidiol i enw da Prifysgol Abertawe mewn unrhyw ffordd.
Gwobrau
20. Bydd arian y bydd ymgeisydd llwyddiannus yn ei dderbyn gan y gystadleuaeth yn swm gros o ran trethi a chostau. Mae'r gwobrau fel a ganlyn: a. un enillydd cyffredinol £250 mewn talebau b. 16 enillydd themâu Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig £100 mewn talebau. Er mwyn osgoi amheuaeth, bydd gan Brifysgol Abertawe ddisgresiwn llawn a therfynol ar bob cwestiwn sy'n ymwneud â dyfarnu'r wobr hon a bydd Prifysgol Abertawe yn ystyried y safbwyntiau y bydd aelodau'r cyhoedd yn eu mynegi o ran hynny.
21. Er gwaethaf yr uchod, mae cwantwm a chyfansoddiad y wobr yn aros yn unol â disgresiwn Prifysgol Abertawe yn unig ar bob adeg.
22. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr llwyddiannus yw datgan i'w hawdurdodau treth lleol mai incwm yw enillion fel y rheiny, os bydd hynny'n berthnasol, a'r ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn gwbl atebol am drethi sy'n daladwy, a byddant yn sicrhau ac yn diogelu Prifysgol Abertawe a fydd yn ddiniwed o ran hawliadau sy'n ymwneud â threthi a chostau fel hynny. Ni fydd Prifysgol Abertawe yn atebol am drethi sy'n daladwy yn sgîl gwobrau fel hynny dan unrhyw amgylchiadau.
Diogelu Data
23. Drwy gwblhau'r ffurflen gais, nid yw'r ymgeisydd yn cytuno y caiff Prifysgol Abertawe gasglu, cadw, prosesu neu ddefnyddio fel arall wybodaeth bersonol yr ymgeisydd ond er dibenion prosesu cais yr ymgeisydd i'r gystadleuaeth, hyrwyddo a gweinyddu'r gystadleuaeth a chreu'r arddangosfa. Ni chaiff gwybodaeth bersonol yr ymgeisydd ei rhannu â thrydydd partïon na'i phrosesu fel arall er dibenion gwahanol heb gydsyniad yr ymgeisydd.
24. Drwy gwblhau'r ffurflen gais a thrwy ddarparu rhagor o wybodaeth i Brifysgol Abertawe mewn perthynas â'r gystadleuaeth, mae'r ymgeisydd yn sicrhau bod yr holl wybodaeth fel hynny yn wir ac yn gywir ac nid yw'n gamarweiniol nac yn anghyflawn fel arall. Os bydd hi'n ymddangos i'r cwmni yn rhesymol neu'n gyfiawnadwy fod yr ymgeisydd wedi mynd yn groes i'r sicrhad hwn, neu os bydd Prifysgol Abertawe yn deall neu'n credu bod risg bod yr ymgeisydd wedi dwyn anfri - neu bydd yn dwyn anfri - ar y gystadleuaeth neu Brifysgol Abertawe, bydd hawl gan Brifysgol Abertawe gymryd camau y bydd eu hangen i roi diwedd ar gyfranogiad yr ymgeisydd yn y gystadleuaeth ar unwaith.
25. Ni fydd yr ymgeisydd yn gwneud cyhoeddiad, cyfathrebiad na chylchlythyr (cyhoeddiad) cyhoeddus, nac yn caniatáu i rywun arall wneud hynny, boed ar lafar, yn ysgrifenedig neu wedi'i ddarlledu ar unrhyw blatfform gan gynnwys (heb fod yn gyfyngedig i) y cyfryngau cymdeithasol, am - neu ynglŷn â - bodolaeth y gystadleuaeth, ei phwnc, ei chanlyniadau na'i thelerau, y gweithrediadau ehangach yn sgîl y gystadleuaeth, neu'r berthynas rhwng y partïon, heb gael cydsyniad ysgrifenedig Prifysgol Abertawe yn gyntaf, ond pan fo gwybodaeth o'r fath eisoes ar gael yn gyhoeddus neu mae'r cwmni'n rhoi ei gydsyniad penodol yn ysgrifenedig. Byddwn yn ystyried mai torri cyfrinachedd fydd mynd yn groes i'r adran hon, a bydd yn groes i'r amodau a'r telerau hyn.
26. Yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 (a'r holl ddeddfwriaeth Diogelu Data arall y gellid ei deddfu o bryd i'w gilydd), bydd Prifysgol Abertawe yn cadw data personol ymgeiswyr a roir ar y Ffurflen Gais yn ddiogel ar sail diddordeb dilys am gyfnod o bedair blynedd. Ni ddefnyddir y data ond yn y broses o weinyddu Cystadleuaeth 'DAU AR BYMTHEG' ac ni chaiff ei throsglwyddo i drydydd parti nad yw'n cymryd rhan uniongyrchol yn yr Arddangosfa hon.
Perchnogaeth a Hawlfraint
27. Mae pob ymgeisydd, wrth gyflwyno cais i Gystadleuaeth DAU AR BYMTHEG, yn cadarnhau ei fod yn meddu ar yr hawliau eiddo deallusol o ran y gwaith, a'i fod wedi cael cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw ar gyfer defnyddio deunydd wedi'i gynnwys yn y gwaith a gyflwynwyd y mae gan drydydd parti'r hawlfraint.
28. Heb ragfarn i'r termau hyn, mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod bod yr hawlfraint ym mhob gwaith a grëir gan yr ymgeisydd yn aros gyda'r ymgeisydd, er hynny, mae'n amod angenrheidiol ar gyfer cyflwyno cais, a thrwy wneud hynny, mae'r ymgeisydd yn cytuno rhoi pob trwydded hawliau, cymeradwyaeth ac awdurdod angenrheidiol i Brifysgol Abertawe gan gynnwys, inter alia, y gwaith mewn unrhyw recordiad ffilm neu waith a ddaliwyd yn ystod y gystadleuaeth/arddangosfa, gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio delweddau fel hynny er mwyn hyrwyddo'r gystadleuaeth, arddangos y gwaith yn gyhoeddus, cyfeirio at y gwaith ar blatfformau digidol o fewn rheolaeth Prifysgol Abertawe, DARN AR GOLL Pan fydd angen rhagor o gydsyniad gan yr ymgeisydd, ni wrthodir hynny'n afresymol.
29. Bydd Prifysgol Abertawe yn rhydd i neilltuo neu drwyddedu ei hawliau mewn recordiadau fel hynny neu ddeunyddiau eraill heb gydsyniad yr ymgeisydd ymlaen llaw, ac mae'r ymgeisydd yn cytuno drwy hyn i ildio pob ateb gorchmynnol neu ateb cyfreithiol arall sy'n bwriadu cyfyngu Prifysgol Abertawe rhag defnyddio'r holl recordiadau neu'r deunyddiau a gafwyd, mewn unrhyw awdurdodaeth. Drwy hyn, hysbysir yr ymgeisydd o'i hawl i gael cyngor cyfreithiol annibynnol cyn cyflwyno cais i'r gystadleuaeth hon, p'un a yw'r ymgeisydd yn dewis manteisio ar gyngor o'r math neu beidio.
30. Drwy hyn, mae'r ymgeisydd yn ildio (i) pob hawl moesol y gallai fod mewn recordiadau neu ddelweddaeth neu ddeunyddiau eraill a gafwyd sy'n cynnwys gwaith yr ymgeisydd, yn unol â Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau neu 1988 (fel y diwygiwyd) a (ii) phob hawl cyfatebol neu gymesur o'r math a all fodoli mewn unrhyw awdurdodaeth ledled y byd. At hynny, mae'r ymgeisydd yn cytuno i beidio â chaniatáu gweithrediadau cyfreithiol mewn unrhyw awdurdodaeth, unrhyw hawliad ynglŷn ag unrhyw dorri hawliau moesol (neu gymesur), neu hawliad ynglŷn â honni bod gwaith yr ymgeisydd wedi'i drin yn niweidiol.
31. Bydd ymgeiswyr yn caniatáu i Brifysgol Abertawe lungopïo ac atgynhyrchu'r gwaith er dibenion hyrwyddo'r arddangosfa, gan gynnwys; gwefannau catalog, y wasg a chyhoeddusrwydd ym mhob tiriogaeth. Mae hawlfraint pob gwaith yn aros yn eiddo'r artist. Cyfeirir ceisiadau am hawlfraint at yr ymgeisydd.
32. Er mwyn osgoi amheuaeth, mae'r ymgeisydd yn sicrhau drwy hyn ei fod yn meddu ar hawlfraint y cais i'r gystadleuaeth ac yn sicrhau hefyd nad yw'r gwaith yn cynnwys nodwedd neu agwedd neu ddeunydd sy'n torri eiddo deallusol trydydd parti (neu a allai fod yn torri hynny, neu disgwylir hynny).
Amodau Derbyn
33. Drwy gyflwyno cais i'r Gystadleuaeth 'DAU AR BYMTHEG', mae ymgeiswyr yn cytuno i'r holl Amodau Derbyn sydd yma. Penderfyniad Prifysgol Abertawe sy'n derfynol o ran pob mater sy'n ymwneud â'r uchod. Mae Prifysgol Abertawe yn cadw'r hawl, ar unrhyw adeg, ac o bryd i'w gilydd, i ddiwygio, newid, amrywio neu ddileu amodau'r gystadleuaeth hon.
34. Mae'r ymgeisydd yn cydnabod, wrth ufuddhau i'r amodau a'r telerau hyn, nad yw'n dibynnu ar unrhyw ddatganiad, cynrychiolaeth, sicrhad neu warant (boed yn ddiniwed neu'n esgeulus), ac ni fydd unioni o ran hynny, nad yw wedi'i amlygu yn y cytundeb hwn.
35. Mae'r amodau a'r telerau hyn (efallai y cânt eu diwygio o bryd i'w gilydd) yn ffurfio'r cytundeb cyfan rhwng y partïon, ac mae'n disodli ac yn cael gwared â phob cytundeb, addewid, sicrhad, gwarant, cynrychiolaeth a dealltwriaeth flaenorol rhyngddynt, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, sy'n ymwneud â'r maes pwnc.
36. Rheolir y gystadleuaeth hon a'r amodau a'r telerau sydd ynghlwm, a phob cwestiwn sy'n ymwneud â'r rheini, gan Gyfraith Cymru a Lloegr a bydd yn atebol i awdurdodaeth anghyfyngol llysoedd Cymru a Lloegr.