Lle mae Prifysgol Abertawe?

Darganfod mwy am gampws prifysgol cyntaf y DU

Y Campws

Y Brifysgol mewn parc, mewn dinas, ger y traeth

Wedi'i lleoli ar barcdir sy'n edrych dros ysblander Bae Abertawe, mae Prifysgol Abertawe o fewn tafliad carreg i'r Ddinas. O olygfeydd trawiadol dros y glannau i barciau heddychlon, bywyd diwylliannol bywiog i'r gorau o fywyd dinesig modern, mae Abertawe yn cynnig y gorau o ddau fyd.

Mae bywyd ar gampws Prifysgol yn magu cymdeithas groesawgar a chosmopolitan, tra bod datblygiadau trawiadol, fel adeilad uchaf Cymru, yn rhoi ymdeimlad cryf o bwrpas a gweledigaeth i'r Ddinas.

Teithio i Abertawe

Teithio i Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe yn hawdd i'w chyrraedd wrth deithio ar y ffordd, y rheilffordd, dros fôr neu awyr.

Mae'r tudalennau hyn yn rhoi gwybod i chi sut i ddod o hyd i'r campws, a lle i barcio.

Darllenwch fwy

Campws Singleton

map