Yn unol â'n Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd, mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i sicrhau sero carbon ar gyfer allyriadau uniongyrchol (cwmpas 1 a 2) erbyn 2035, gydag o leiaf gostyngiad o 70% erbyn 2030*. Gyda tharged Cwmpas 3 i gyflawni gostyngiad (ar gyfartaledd) o 2.5% flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn allyriadau cwmpas 3, gostyngiad o 50% erbyn 2035 (35% erbyn 2030) o linell sylfaen y cytunwyd arni gan CCAUC yn 2015.
Ar hyn o bryd, mae'r Brifysgol yn pennu cyllideb ddatgarboneiddio flynyddol gwerth £3 miliwn sy'n cael ei hintegreiddio i gynllunio prosiectau Ystadau ac sy'n cyd-fynd â chyllideb Sero Net Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio Prifysgol Abertawe, Ystadau a Gwasanaethau Campws. Mae Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Campws y Brifysgol yn gyfrifol am y cynllun gweithredu datgarboneiddio. Caiff monitro perfformiad, adrodd a gweithredu ymyriadau datgarboneiddio eu rheoli gan dimau’r Gwasanaethau Cynaliadwyedd ac Isadeiledd.
Rydym yn adrodd yn gyhoeddus am allyriadau carbon pob cwmpas yn flynyddol ochr yn ochr â Sefydliadau Addysg Uwch eraill y DU ar wefan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ac yn cyhoeddi Path to Zero Annual Performance Report 2022 - 2023 fel rhan o'n System Rheoli Amgylcheddol ISO14001. Caiff targedau a pherfformiad eu monitro drwy berfformiad cynlluniau blynyddol y brifysgol, yr Adolygiad Rheoli Amgylcheddol a'r Pwyllgor Cynaliadwyedd strategol.
* Caiff allyriadau eu holrhain yn unol â thargedau o'n blwyddyn waelodlin 2015/16 y cytunwyd arni gan CCAUC.