Ymunodd ein tîm Cynaliadwyedd â llu o adrannau a busnesau lleol i ysbrydoli staff, myfyrwyr a'r gymuned leol i fod yn fwy cynaliadwy.
Roedd y digwyddiad hwn yn para am wythnos ac yn cynnwys mwy na 21 digwyddiad cynaliadwy megis trywyddion natur, glanhau traethau, gweu basgedi, sgyrsiau am newid yn yr hinsawdd, 2 Ffair Werdd â 36 stondin ac arddangosiad ynghylch glanhau traethau yn dangos yr eitemau rhyfedd a rhyfeddol y mae'r tîm wedi'u casglu o draeth Campws y Bae.
Yn ystod yr wythnos, roedd cyfranogwyr hefyd yn gallu gwneud 'Addewid Gwyrdd' - sef rhywbeth roeddent yn gallu ei wneud i wneud eu bywydau personol a phroffesiynol yn fwy cynaliadwy a lleihau eu hôl troed carbon personol. Gwnaethom gasglu tua 400 o Addewidion Gwyrdd gan staff, myfyrwyr ac aelodau o'r gymuned yn ystod Wythnos Byddwch yn Wyrdd, a oedd yn cynnwys gweithredoedd syml megis cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau faint o gig maent yn ei fwyta, i ymrwymiadau mwy megis gosod hidlydd microplastigau mewn peiriannau golchi!
Er bod Wythnos Byddwch yn Wyrdd wedi dod i ben, gallwch chi Gymryd Rhan o hyd mewn gweithgarwch Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe. Ewch i'n tudalen Eventbrite i ddarganfod beth sy'n digwydd ar y campws!