Newid cyfeiriad gyda chwrs trosi ôl-radd

Os hoffech chi newid cyfeiriad eich astudiaethau neu’ch llwybr gyrfa i bwnc sy’n gwbl wahanol i’ch gradd israddedig, rydym ni’n cynnig cyfle i chi astudio ar gwrs trosi.

Beth yw cwrs trosi?

Mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i raddedigion unrhyw faes pwnc astudio cwrs meistr ôl-raddedig heb gymwysterau perthnasol blaenorol.

A yw cwrs trosi’n iawn i mi?

Os oeddech chi’n ystyried newid llwybr eich astudiaethau neu’ch gyrfa, gallai hyn fod yn llwybr perffaith i chi. Bydd gennych gyfle nid yn unig i ehangu eich sylfaen wybodaeth a’ch cyfleoedd cyflogaeth, ond hefyd i ddod yn arbenigwr yn eich pwnc Meistr dewisol, gan roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad lafur.