Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r cwrs hwn, sy’n croesawu graddedigion o bob maes pwnc, yn defnyddio ac yn crynhoi’r wybodaeth rydych chi wedi’i hennill o gefndir eich gradd mewn amgylchedd rhithrealiti y gellir ei ddefnyddio mewn ffordd gyffrous a rhyngweithiol y gellir ymgolli ynddi at ddibenion masnachol, meddygol, ymchwil, addysg neu hyd yn oed adloniant, gan ehangu eich sgiliau deallusol o sail wybodaeth israddedig fwy cul i set sgiliau amlddisgyblaethol.
Nod y rhaglen hon yw:
- Darparu trosolwg i raddedigion o dechnoleg a chymwysiadau XR
- Galluogi graddedigion i ddeall a chymhwyso technoleg rithrealiti fodern yng nghyd-destun heriau cymdeithasol, economaidd a thechnegol ac arddel ymagwedd gyfannol ac amlddisgyblaethol at ddatrys problemau
- Diffinio a datblygu cymwysiadau effeithiol sy’n seiliedig ar gyfrifiaduron
- Galluogi graddedigion i adlewyrchu ar bwysigrwydd a chryfderau a gwendidau unigol meddwl yn entrepreneuraidd ac yn arloesol ac i ddefnyddio technegau meddwl am syniadau a datrys problemau’n effeithiol
- Archwilio barn ddamcaniaethol ar ddylunio sy’n canolbwyntio ar y cyfryngau, marchnata, diwylliant a phobl drwy gydol y broses o lunio’r prosiect
- Ymgysylltu’n effeithiol â sefydliadau i ddatblygu cynlluniau prosiect
- Datblygu graddedigion sydd â dealltwriaeth sylfaenol o reoli prosiectau