Sut gall gradd ôl-raddedig fod o fudd i'm gyrfa?
Mae gan astudiaethau ôl-raddedig lawer o fuddion, gan gynnwys:
- Gwell potensial ar gyfer cyflogaeth – mae dros 300,000 o fyfyrwyr yn graddio gyda gradd israddedig bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Gall gradd ôl-raddedig eich helpu i ddisgleirio ymhlith y dorf mewn marchnad swyddi sy'n fwyfwy cystadleuol a llawn
- Datblygiad gyrfa – gall cymhwyster ôl-raddedig eich arfogi â sgiliau a phrofiad y gallwch eu trosglwyddo i'r gweithle
- Boddhad deallusol – os ydych chi'n frwd dros faes pwnc penodol ac am ehangu'ch gwybodaeth, gallai gradd ôl-raddedig fod yn berffaith i chi
- Newid cyfeiriad – am newid maes pwnc ar ôl eich gradd israddedig? Gallai cwrs trosi o Brifysgol Abertawe eich helpu i newid cyfeiriad eich astudiaethau a/neu'ch gyrfa