Trosolwg o'r Cwrs
Oes gennych ddiddordeb mewn cyllid? Mae'n broffesiwn amrywiol iawn gyda busnesau ym mhob sector yn galw am bobl â sgiliau ariannol o'r radd flaenaf. Felly, p'un a oes gennych ddiddordeb mewn bancio, cyllid neu yswiriant, bydd rôl gyffrous i chi sy'n cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa.
Cynlluniwyd y rhaglen MSc Rheoli (Cyllid) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cyllid neu yrfa ym maes cyllid ond nad ydynt am astudio am radd lawn mewn Cyfrifeg a Chyllid. Byddwch yn astudio modiwlau am bynciau cyllid uwch megis egwyddorion cyllid corfforaethol a rheoli adnoddau ariannol.
Byddwch hefyd yn astudio rheoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata, i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.
Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.