Lleolir yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe yn ein Ffowndri Gyfrifiadol ragorol ar Gampws y Bae, ar ei safle trawiadol ar lan y môr. Mae'r cyfleuster o’r radd flaenaf gwerth £32.5 miliwn yn darparu'r cyfleusterau addysgu ac ymchwil o safon diweddaraf yn ogystal â chynnig lle i bartneriaid diwydiannol gydweithio â ni, profi syniadau newydd a lle i fyfyrwyr ac ymchwilwyr weithio ar broblemau'r byd go iawn mewn amgylchedd sy'n ysbrydoli.
Drwy ein graddau israddedig ac ôl-raddedig uchel eu parch, byddwch yn cael eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannu neu'n cael eich paratoi’n dda i ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol.