Mae’r Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig portffolio o 5 rhaglen ôl-raddedig a addysgir sy’n arwain at radd Meistr y Celfyddydau (MA) ar sail blwyddyn o astudio (ar sail amser llawn). Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys amrywiad estynedig sy’n caniatáu i fyfyrwyr dreulio semester dramor. Gall myfyrwyr hefyd gofrestru ar sail amser llawn neu ran-amser ac astudio am dystysgrif (60 credyd) neu ddiploma (120 credyd), yn hytrach na gradd (180 credyd).
Staff yr adran sy’n addysgu’r rhan fwyaf o’r rhaglenni, ond mae rhai ohonynt yn cynnwys cydweithrediad ag adrannau neu ysgolion eraill, yn enwedig wrth ddarparu modiwlau dewisol. Daw ein myfyrwyr ôl-raddedig o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop, a hefyd o Asia, Affrica, Cyfandiroedd America a’r Môr Tawel, gan ddwyn blas rhyngwladol a de-gogledd i’n cynnig, a gall myfyrwyr tramor wneud cais am gyfres o ysgoloriaethau sy’n seiliedig ar astudio gyda ni, gan gynnwys Ysgoloriaethau Chevening a’r Gymanwlad.
Mae pob rhaglen MA yn cynnwys modiwlau gorfodol ynghyd â nifer o fodiwlau dewisol sy’n cael eu hargymell gan yr adran (gweler y manylion yn ôl y rhaglen isod). Fodd bynnag, gall myfyrwyr fanteisio ar y dewis sylweddol o fodiwlau ôl-raddedig a gynigir gan Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
I weld yr ysgolion a’r adrannau sy’n llunio’r gyfadran: https://www.swansea.ac.uk/cy/dyniaethau-a-gwyddoraucymdeithasol/
I weld y modiwlau mae’r ysgolion a’r adrannau hyn yn eu cynnig, gweler catalog modiwlau’r brifysgol, https://intranet.swan.ac.uk/catalogue/default.asp
I gael rhagor o gyngor am opsiynau’r modiwl sydd ar gael yn ôl y rhaglen, cysylltwch ag arweinydd ôl-raddedig yr adran, Dr Gerard Clarke (g.clarke@swansea.ac.uk).