Trosolwg o'r Cwrs
MA Estynedig (EMA) mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn cyflwyno addysgu ysgogol ar y system ryngwladol. Mae'n cwmpasu materion critigol, ffigyrau blaenllaw a dulliau amgen o ddadansoddi a dehongli.
Byddwch yn meithrin gwerthfawrogiad dwfn a chynhwysfawr o ddynameg byd-eang anwadal, cyn arbenigo yn rhanbarth Asia a'r Môr Tawel.
Mae graddedigion y cwrs hwn yn datblygu i ddilyn gyrfaoedd boddhaol ym meysydd llywodraeth a gwleidyddiaeth, sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig, y Swyddfa Dramor a sefydliadau dyngarol.
Y sefydliad partner ar gyfer EMA Cysylltiadau Rhyngwladol yw Ysgol Llywodraeth a Gwasanaeth Cyhoeddus Bush ym Mhrifysgol Texas A&M. Sefydlwyd Ysgol Bush ym 1997 ac mae ymhlith 12% uchaf 266 o ysgolion materion cyhoeddus i raddedigion yn UDA, yn ôl sgoriau a gyhoeddwyd yn U.S. News & World Report. Yng Ngholeg Station, Texas, lleolir rhaglenni'r Ysgol yn Adeilad Robert H. a Judy Ley Allen, sy'n rhan o Ganolfan Llyfrgell Lywyddol George Bush ar Gampws Gorllewinol Texas A&M. Mae'r lleoliad yn cynnig mynediad at gasgliadau archifol Amgueddfa a Llyfrgell Lywyddol George Bush i fyfyrwyr, yn ogystal â gwahoddiad i ddigwyddiadau niferus a gynhelir gan Sefydliad George Bush yng Nghanolfan Gynadledda Lywyddol Annenberg a'r cyfle i fod yn rhan o lu o weithgareddau yng nghymuned Texas A&M. Texas A&M yw ail brifysgol fwyaf UDA, ac roedd 66,000 o fyfyrwyr wedi'u cofrestru yn 2016. Mae'n aelod o gymdeithas nodedig, sef Cymdeithas Prifysgolion America, ac un o’r 61 o sefydliadau â'r fraint o fod yn aelod ohoni.