Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa ddynamig mewn cyllid, ymgynghori economaidd neu fasnachu a buddsoddiadau? Ydych chi'n gyfathrebwr da â sgiliau dadansoddi cryf? P'un a ydych am weithio yn y ddinas, neu mewn canolfannau ariannol pwysig eraill ledled y byd, bydd y radd hon yn rhoi hwb i chi ddatblygu gyrfa sy'n cynnig cyflogau eithriadol o dda.
Nod y cynllun MSc Economeg a Chyllid ym Mhrifysgol Abertawe yw darparu sylfaen gadarn i fyfyrwyr yn llawer o'r prif gysyniadau, dulliau modelu a thechnegau ymchwil pwysig a ddefnyddir mewn agweddau allweddol ar economeg, ac a fydd yn bwysig hefyd ym maes cyllid.
Mae'r rhaglen hon yn addas i raddedigion mewn meysydd perthynol i economeg sy'n chwilio am raglen uwch i gyfoethogi eu gyrfaoedd neu i archwilio cyfleodd i wneud ymchwil pellach.
Drwy gyfuno damcaniaeth ac ymarfer economeg uwch â phynciau cyllid perthnasol, bydd y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa â phwyslais ar gyllid, unrhyw le yn y byd.