Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn chwilio am radd mewn cyllid a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi? Os felly, y cwrs BSc Cyllid ym Mhrifysgol Abertawe yw'r radd i chi.
Mae'r cwrs gradd hwn yn berffaith os oes gennych ddiddordeb brwd mewn meysydd ariannol fel bancio buddsoddi neu fasnachu ariannol.
Drwy gyfuno gwaith theori, tystiolaeth empirig a gwaith ymarferol, byddwch yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy hanfodol sy'n eich galluogi i ddadansoddi materion a chysyniadau ariannol go iawn a'u gwerthuso'n feirniadol.
Fel arbenigwr cyllid, byddwch yn cyflawni rôl sylfaenol yn y gwaith o redeg busnes – beth bynnag fo'i faint. Mae rheoli cyllidebau a threthi, paratoi adroddiadau ariannol a chwblhau archwiliadau i gyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod busnes neu sefydliad yn rhedeg mor effeithiol ac mor llwyddiannus â phosibl.
Mae ein cwrs wedi’i achredu gan y Sefydliad ar gyfer Dadansoddwyr Ariannol Siartredig (CFA) ac mae ganddo statws Rhaglen sy’n Gysylltiedig â Phrifysgol, sy’n dangos i fyfyrwyr a chyflogwyr bod ein cwricwlwm wedi’i gysylltu’n agos ag arfer rheoli buddsoddiad a’i fod yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer arholiadau rhaglen CFA®.