Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn chwilio am radd mewn Cyfrifyddu a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi? Os felly, y cwrs BSc Cyfrifeg gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yw'r radd i chi.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Cyfrifeg, y cwrs BSc Cyfrifeg gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes cyfrifyddu, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Cyfrifeg yn yr Ysgol Reolaeth.
Os hoffech ddilyn gyrfa yn un o'r pedwar cwmni cyfrifyddu mawr (Deloitte, EY, KPMG neu PwC), neu os ydych yn gweld eich hun yn gweithio fel cyfrifydd mewnol i un o gyrff y llywodraeth, busnes bach neu fawr, sefydliad dielw neu unigolyn, bydd y radd BSc Cyfrifeg yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i chi.
Fel cyfrifydd, byddwch yn cyflawni rôl sylfaenol yn y gwaith o redeg busnes – beth bynnag fo'i faint. Mae rheoli cyllidebau a threthi, paratoi adroddiadau ariannol a chwblhau archwiliadau i gyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod busnes neu sefydliad yn rhedeg mor effeithiol ac mor llwyddiannus â phosibl.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.