Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.
Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:
- Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
- Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
- Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
- Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.
Cyflogadwyedd yn Ysgol y Gyfraith
Mae Ysgol y Gyfraith yn gweithredu mewn modd rhagweithiol er mwyn gwella cyflogadwyedd graddedigion, ac mae ganddi Tîm Cyflogadwyedd a Lleoliadau penodedig. Mae'r Ysgol yn cynnig amrywiaeth o leoliadau gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, cyrsiau proffesiynol, cyngor a chymorth i'ch helpu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eich uchelgeisiau.
Mae gwella cyflogadwyedd ein myfyrwyr yn flaenoriaeth allweddol. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn trefnu nifer o fentrau i fyfyrwyr LLM, gan gynnwys y Ffair Gyrfaoedd LLM Flynyddol, sy'n cynnig y cyfle i fyfyrwyr gyfarfod â chynrychiolwyr o gwmnïau cyfreithiol lleol a rhyngwladol, digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau â phractisau blaenllaw yn Ninas Llundain.
Mae ein graddedigion yn dod o hyd i swyddi mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd yn y maes hwn. Ceir rhagor o wybodaeth am ble y mae ein myfyrwyr wedi dod o hyd i swyddi ar ein gwe-dudalen Cyrchfannau Myfyrwyr LLM.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd gyrfaoedd a chyflogadwyedd ar ein gwe-dudalen Mentrau a Chanlyniadau Cyflogadwyedd LLM.