Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
Bydd gennych chi oddeutu 30 awr o amser cyswllt yr wythnos wrth astudio i fod yn Awdiolegydd. Darperir y maes llafur trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gwaith grŵp bach a dosbarthiadau ymarferol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynychu lleoliadau gwaith clinigol i'ch helpu i roi eich theori i ymarfer bywyd go iawn.
Asesir dysgu fesul amrywiaeth o ddulliau trwy gydol y tair blynedd o astudio. Byddwch yn cwblhau arholiadau ysgrifenedig, aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, trafodaethau ar sail achos ac asesiadau o gymhwysedd clinigol. Ym mlwyddyn tri, cewch gyfle i gwblhau prosiect ymchwil yn eich rhaglen wyddoniaeth gofal iechyd ddewisol. Caiff canlyniadau hyn eu cyflwyno fel rhan o'ch traethawd hir a byddwch chi'n cymryd rhan mewn cyflwyniad poster gwyddonol a asesur gan gymheiriaid.