Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein cwrs gradd Nyrsio Plant rhan-amser a gydnabyddir yn rhyngwladol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.
Yn ystod y rhaglen BSc bedair blynedd hon, byddwch yn dysgu am anghenion iechyd a llesiant holistaidd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Drwy gyfuniad o astudiaethau academaidd a phrofiad clinigol ymarferol, byddwch yn meithrin y sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch i ddarparu gofal nyrsio o safon uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth a mesurau diogelu iechyd mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a chymunedol, a hynny'n aml wrth weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gydberthnasau gwaith ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd felly byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru, gan gynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.