Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Safon Uwch/Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch*
BBB
* Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr Diploma Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Mae'r gofynion yr un peth â'r rhai ar gyfer Safon Uwch, lle y gallwch gyfnewid yr un radd nad yw'n benodol i'r pwnc am Radd Graidd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch
30 Rhagoriaeth, 15 Teilyngdod,
Cynnig Nodweddiadol ar gyfer BTEC
DDD. Mae'n bosibl y gellir derbyn cyfuniad o gymwysterau BTEC â Rhagoriaeth a chymwysterau Safon Uwch â gradd B.
Bagloriaeth Ryngwladol
32 o bwyntiau
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Gofal Mamolaeth
Mae angen i broffiliau TGAU gynnwys o leiaf bum gradd A*-C/9-4 gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddoniaeth Ddwbl (neu bwnc gwyddoniaeth traddodiadol fel Bioleg, Cemeg neu Ffiseg.
Bydd angen geirda addysgol boddhaol ar bob ymgeisydd.
Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad a'r meini prawf dethol yn cael eu gwahodd i gyfweliad, y gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn/galwad fideo. Mae ein Cyngor Cyfweliadau yn esbonio mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Os ydych yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd unrhyw gynnig lle yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/yr Heddlu boddhaol neu gyfwerth gan eich gwlad gartref yn ogystal â datganiad iechyd galwedigaethol ac asesiad cyn dechrau eich astudiaethau. Darperir rhagor o fanylion os byddwch yn derbyn cynnig.
Os cynigir lle i chi, bydd angen y canlynol arnoch:
- Geirda boddhaol
- Gwiriad Iechyd Galwedigaethol
Dylech hefyd ymgyfarwyddo â Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad GIG Cymru
Bydd gofyn i bob ymgeisydd gael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gwiriad iechyd galwedigaethol. Gellir ystyried unrhyw bryderon sy'n codi o'r rhain ym Mhanel Addasrwydd a Phriodoldeb i Ymarfer Proffesiynol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gall arwain at dynnu lle ar y rhaglen yn ôl.