Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
Faint o amser astudio sydd rhaid ei wneud?
Fel canllaw mae modiwl 10 credyd yn gofyn am 100 awr dybiannol o astudio sy'n cynnwys 21 awr o bresenoldeb mewn diwrnodau astudio yn y Coleg, 21 awr o ddysgu yn ymarferol a'r gweddill fel astudiaeth hunangyfeiriedig, dros gyfnod o 15 wythnos.
Asesiad
Defnyddir ystod o ddulliau asesu i asesu'ch dysgu gan gynnwys traethodau myfyriol, traethodau naratif, astudiaethau achos, trafodaeth ar sail achos, OSCE, cyflwyniadau, portffolio clinigol, cwestiynau amlddewis ac arholiad nas gwelwyd o'r blaen.
Lleoliad
Addysgir modiwlau craidd ar gyfer y cwrs Nyrsio Ymarfer Cyffredinol hwn ar gampws Singleton. Gellir dysgu modiwlau dewisol ar Gampws Singleton neu ar Gampws Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.
*Dim ond os cânt eu dewis gan nifer ddigonol o fyfyrwyr y bydd rhai modiwlau, cyrsiau a rhaglenni a gynigir gan Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhedeg.