Rhaid i chi fod yn Weithiwr Cefnogi Gofal Iechyd (HCSW) a gyflogir a'i gefnogi mewn rôl nyrsio gan Feddyginiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, UHB Hywel Dda neu Fwrdd Iechyd Powys. Cysylltwch â'ch arweinydd addysg bwrdd iechyd cyn gwneud cais am y cwrs.
Bae Abertawe - Alison.Otten@wales.nhs.uk
Hywel Dda - Allyson.Thomas@wales.nhs.uk
Powys - David.Gallimore@wales.nhs.uk neu Sarah.Legat@wales.nhs.uk
I geisio byddwch angen isafswm o BBB-BCC yn lefel A2, mewn cyrisau’n ymwneud ag iechyd neu wyddoniaeth orau.
Byddwch hefyd angen isafswm o 5 gradd A-C TGAU pas yn cynnwys Saesneg/iaith Gymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth Ffisegol neu Wobr Gwyddoniaeth Dwbl.
Gofynion Dewisol:
Mynediad – 60 credyd yn gyffredinol gydag o eliaf 45 at lefel 3 ac 15 at lefel 2. O’r 45 o gredydau at lefel 3, bydd angen isafswm o 24 ragoriaeth, 18 teilyngdod a 3 pas.
BTEC – DDM
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch – gradd B a BB yn A2 neu DM yn BTEC
Gallwch fyned y cwrs gyda Thystysgrif lefel 4 mewn astudiaethau gofal iechyd ar gyfer Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd a bydd yn cael ei ystyried i ddechrau ar astudiaethau rhan-amser lefel 5. Caiff yr opsiwn yma ond ei gynnig yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Yn ogystal, bydd angen APeL mewn 300 awr o ymarfer clinigol.
Bydd angen geirda addysgol boddhaol ar bob ymgeisydd.
Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad a'r meini prawf dethol yn cael eu gwahodd i gyfweliad, y gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn/galwad fideo. Mae ein Cyngor Cyfweliadau yn esbonio mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Os ydych yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd unrhyw gynnig lle yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/yr Heddlu boddhaol neu gyfwerth gan eich gwlad gartref yn ogystal â datganiad iechyd galwedigaethol ac asesiad cyn dechrau eich astudiaethau. Darperir rhagor o fanylion os byddwch yn derbyn cynnig.
Bydd gofyn i bob ymgeisydd gael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gwiriad iechyd galwedigaethol. Gellir ystyried unrhyw bryderon sy'n codi o'r rhain ym Mhanel Addasrwydd a Phriodoldeb i Ymarfer Proffesiynol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gall arwain at dynnu lle ar y rhaglen yn ôl.