Mae'r Rhwydwaith Ymchwil ar Weithredu Hinsawdd (CARN), dan arweiniad y Gyfadran Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, yn bodoli i hyrwyddo ymchwil i weithredu hinsawdd rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol. Ein nod yw cefnogi ymchwilwyr i archwilio dimensiynau dynol newid hinsawdd o safbwyntiau cymdeithasol, diwylliannol, artistig ac ymddygiadol.
Mae mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth yn gofyn am ymgysylltu ag effeithiau ac asiantaeth dynol a chymdeithasol, mewn deialog â gwyddoniaeth a thechnoleg. Gan weithio'n agos gyda'r Sefydliad Ymchwil ar Weithredu Hinsawdd (CARI) sydd wedi'i leoli yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, mae CARN yn darparu pont rhwng ymchwil y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol ac ymchwil hinsawdd mewn cyfadrannau eraill.
Ein gwaith
Mae CARN yn hwyluso cydweithio rhwng ymchwilwyr i ddatblygu dulliau newydd o fynd i'r afael ag argyfyngau cyd-gysylltiedig newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a llygredd. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid allanol ar weithredu ar yr argyfwng hinsawdd. Mae clystyrau ymchwil CARN yn ddynamig ac yn adlewyrchu heriau cynyddol amlwg a synergeddau ymchwil ei aelodau. Ymysg y themâu trosfwaol mae:
Sut y gallwch chi gymryd rhan
Rydyn ni'n croesawu awgrymiadau am gydweithio newydd, themâu, siaradwyr neu geisiadau am gefnogaeth i ddatblygu cynigion cydweithredol perthnasol am gyllid. I ymuno â'r rhwydwaith neu i wneud cais am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil ar Weithredu Hinsawdd, Yr Athro Kirsti Bohata: k.bohata@swansea.ac.uk.
Pwy ydyn ni
Cyfarwyddwr: Yr Athro Kirsti Bohata
Am y Cyfarwyddwr: Mae Kirsti Bohata yn Athro Llenyddiaeth Saesneg sy'n arbenigo ym maes Llenyddiaeth Saesneg Cymru. Mae hi wedi cyhoeddi ar agweddau ôl-drefedigaethol, cwiar, anabledd a'r syniad o le at lenyddiaeth. Mae'r Athro Bohata'n arwain y Rhwydwaith Adrodd ar Newid Cefn Gwlad, ac mae ei hymchwil diweddar yn cynnwys defnyddio cyd-ddylunio gemau i ddatblygu a gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth (wedi'i gyllido gan AHRC) a phrosiect cydweithredol rhwng gwyddonwyr hinsawdd ac artistiaid o'r enw Climate Lab (wedi'i gyllido gan NERC a MASI).
Grŵp Llywio CARN