aerial photo
Caner Sayan Headshot

Dr Caner Sayan

Darlithydd Polisi Dadansoddi, Politics, Philosophy and International Relations

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Caner Sayan yn Ddarlithydd mewn Dadansoddi Polisi ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn dod i Abertawe, roedd yn Gymrawd Ymchwil mewn Dŵr a Gwydnwch ym Mhrifysgol Cranfield, yn Gymrawd Ôl-ddoethur mewn Diogelwch Dŵr yn United Nations University Institute for Water, Environment and Health (UNU-INWEH), ac yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Dundee. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth amgylcheddol, dŵr a datblygu, gydag arbenigedd mewn cyfiawnder amgylcheddol, ecoleg wleidyddol, gwydnwch a gwleidyddiaeth dyfroedd trawsffiniol. Mae ei ffocws rhanbarthol ar y Dwyrain Canol a Thwrci ac Affrica Is-Sahara (De Affrica, Kenya, Basn Llyn Tsiad a Basn Afon Congo).

Mae ei erthyglau fel awdur unigol ac ar y cyd wedi cael eu cyhoeddi mewn sawl man, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i,  International Affairs, Water Alternatives, Energy Research & Social Science, Local Environment a Territory, Politics, Governance.

Meysydd Arbenigedd

  • Gwleidyddiaeth Amgylcheddol (Byd-eang)
  • Diogelwch Dŵr
  • Cyfiawnder Amgylcheddol a Dŵr
  • Gwleidyddiaeth Dyfroedd Trawsffiniol
  • Ecoleg Wleidyddol
  • Datblygiad Rhyngwladol
  • Ymchwil Ansoddol a Dylunio Gwaith Maes

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

 

Mae Caner wedi addysgu'n helaeth ar Ddamcaniaethau Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang, Damcaniaethau Datblygu, Datblygu Byd-eang a’r Rhaniad Gogledd-De, Anghydraddoldebau Byd-eang, Cyfiawnder Amgylcheddol a Gwleidyddiaeth Dŵr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Cranfield, UNU-INWEH, Prifysgol McMaster a Phrifysgol Dundee. Mae wedi bod yn goruchwylio thesisau israddedig ac MA/MSc yn rheolaidd a chyfrannu at ddylunio gwaith maes myfyrwyr ôl-raddedig. Hefyd, cyd-gynlluniodd fodiwl ar-lein ar “Water and Migration” ar gyfer Water Learning Centre UNU-INWEH.

Mae'n Gymrawd Cysylltiol yr Academi Addysg Uwch. Arweiniodd ei ymrwymiad i ddulliau cyfranogol, rhyngweithiol, ac arloesol ym maes addysgu, a'i ymgysylltiad â myfyrwyr, at dderbyn Gwobr Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2015 Cymdeithas Myfyrwyr Prifysgol Dundee yn y categori 'Addysgu Mwyaf Ysbrydoledig gan Diwtoriaid Graddedigion'.

 

Prif Wobrau