Pan fyddwch yn ymrestru ar raglen Addysg Weithredol, byddwch yn dod yn rhan o gymuned ffyniannus Prifysgol Abertawe. Bydd hyn yn agor drysau i'ch sefydliad i archwilio ein hymchwil, ein harbenigedd a'n talent yn y dyfodol; byddwch yn dod yn rhan o'n hecosystem, y gallwch ei defnyddio er eich budd o fewn eich sefydliad.
Cewch gyfle i:
- Ymgysylltu â'n hacademyddion a'n myfyrwyr arbenigol, sy'n gallu gwneud gwaith ymchwil ar eich rhan, sy'n canolbwyntio ar eich heriau a'ch anghenion busnes penodol
- Cyd-letya a chymryd rhan mewn digwyddiadau arweinio i lywio meddwl ac i adeiladu tuag at bolisi yn y dyfodol
- Ymgynghori â'n timau pwnc arbenigol ar draws busnes, cyllid ac economeg. Bydd hyn yn agor drysau i gydweithio’n strategol, i helpu datrys problemau ac i optimeiddio eich canlyniadau
- Ymgynghori ag arbenigedd o gyfadrannau eraill ar draws y Brifysgol o Ddigidol, i Iechyd, i'r Gyfraith a'r Celfyddydau – rydym am weithio gyda chi i sicrhau bod gennych fynediad at yr arbenigwyr cywir ar draws ein hamgylchedd dysgu
- Cael mynediad i feddylfryd a thalent yfory – drwy gynnal lleoliadau diwydiant neu drwy ymuno â'n Cynllun Mentora fel mentoriaid diwydiant
Fe'ch gwahoddwn i ddod yn rhan o'n cymuned a'n taith o ddysgu gydol oes; ymuno â rhwydwaith o unigolion amrywiol, angerddol, sy'n canolbwyntio ar adeiladu cymdeithasau cynaliadwy sy'n cael eu gyrru gan werth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â‘n tîm Addysg Weithredol ar som-execed@swansea.ac.uk