Cefnogi Athena Swan
Dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Athena SWAN i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe am ei hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y rownd adolygu ddiweddaraf gan Advance HE.
Sefydlodd yr Uned Her Cydraddoldeb Siarter Athena SWAN yn 2005 er mwyn annog a chydnabod ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn meysydd STEMM mewn addysg uwch ac ymchwil.
Ym mis Mai 2015, ehangwyd y siarter i gydnabod gwaith a wneir yn y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a'r gyfraith, mewn rolau proffesiynol a chefnogi, ac ar gyfer staff a myfyrwyr traws. Mae'r Siarter bellach yn cydnabod gwaith a wneir i fynd i'r afael â chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn fwy eang, nid y rhwystrau i gynnydd sy'n effeithio ar fenywod yn unig.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am Siarter Athena SWAN ym Mhrifysgol Abertawe.