Y Her
Mae hunanladdiad yn un o brif achosion marwolaeth cyn pryd, gyda dros 800,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn fyd-eang o ganlyniad i hunanladdiad. Yn anaml y mae yna un rheswm pam y mae rhywun yn ei ladd ei hun. Gellir deall hyn orau trwy amgylchiadau bywyd pob unigolyn, mewn rhyngweithiad gweithredol o ffactorau risg a phrofiadau niweidiol. Fodd bynnag, mae'n bosibl atal hunanladdiad trwy ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd ar draws sectorau megis ysgolion ac iechyd, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd.
Y Dull
Mae'r Athro Ann John yn arwain tîm o ymchwilwyr sydd â diddordeb yn y modd y gellir defnyddio “Data Mawr dienw” i nodi patrymau a dangosyddion risg bosibl, ac yna ddefnyddio'r marcwyr hyn i lywio polisi, protocolau a chanllawiau ar gyfer y rhai sydd mewn cysylltiad â'r rheiny sydd mewn perygl o'u niweidio neu eu lladd eu hunain.
Wrth fyw ein bywydau bob dydd, mae pob un ohonom yn gadael ôl troed data mewn data a gesglir fel mater o drefn, sef set o batrymau ar draws sectorau gwahanol. Trwy gadw'r data hyn mewn Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy, gellir eu cysoni ag unigolion dienw a'u defnyddio i nodi cysylltiadau ac ymddygiadau sy'n amlygu'r rheiny a allai elwa o ymyriadau i atal hunan-niwed a hunanladdiad.
Mae ymchwil yr Athro John yn edrych ar ddata dienw sy'n cysylltu ar draws sectorau, o Bresenoldeb ac Absenoldebau mewn Ysgolion, Cyflawniad mewn Arholiadau ac Apwyntiadau Meddygol â meddygon teulu neu yn yr ysbyty, i'r cyfryngau cymdeithasol, Google Analytics a dulliau adrodd yn y cyfryngau. Er na chaiff y data hyn fyth eu cysylltu ag unigolyn a enwir, gall patrymau ymddygiadau nifer o unigolion greu darlun o'r modd y gellir cynllunio ymyriadau, rhoi protocolau ar waith, a datblygu polisïau i helpu i lywio a hyfforddi gweithwyr proffesiynol sydd mewn cysylltiad â'r rheiny sy'n hunan-niweidio neu sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad.