Sefydlwyd Prifysgol Abertawe i helpu i ddiwallu anghenion byd diwydiant mewn rhanbarth a oedd yn enwog am arbenigo mewn metelau. Heddiw, mae'r Brifysgol yn parhau i gydweithio â'r diwydiant dur wrth arwain gwaith arloesol.
Dur yw asgwrn cefn y byd modern, o adeiladau a phontydd i duniau bwyd ac oergelloedd. Ond diwydiant y dyfodol ydyw hefyd. Gellir ailgylchu dur yn ddiderfyn, heb golli ansawdd – dyma'r deunydd sy'n cael ei ailgylchu fwyaf yn y byd. O reilffyrdd tra chyflym a cheir trydan i dechnoleg solar a thyrbinau gwynt, mae dyfodol glanach, gwyrddach yn dibynnu ar ddur.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe'n arwain y gwaith arloesol hwn, gan ddatblygu technolegau'r dyfodol, megis cludiant ac adeiladau mwy cynaliadwy.