"Mae ymchwil ac arloesi'n ein galluogi i gadw ar flaen ein cystadleuwyr, dangos ein harbenigedd, ein profiad a’n rhagoriaeth unigryw mewn meysydd sy'n datblygu neu feysydd gwreiddiol archwilio. Mae cydweithio ag Abertawe wedi rhoi mewnwelediad i ni nad oedd gennym yn y Brifysgol gynt ym Mhrifysgol Swydd Hertford ac mae wedi helpu i feithrin gallu. O ganlyniad i'n cydweithio, rydym wedi llunio sawl papur academaidd a adolygwyd gan gymheiriaid, wedi cyd-oruchwylio sawl myfyriwr PhD, wedi datblygu ymagweddau arloesol at astudio Sylweddau Seicoweithredol Newydd, wedi rhoi arweiniad i gyrff gan gynnwys Cyngor Cynghori Llywodraeth y DU ar Gamddefnyddio Cyffuriau ac wedi llywio arfer fferyllol a chlinigol." John Martin Corkery, Prifysgol Swydd Hertford
'Yn benodol, mae'r cydweithio â Phrifysgol Abertawe wedi rhoi'r cyfle i ni gynnal astudiaethau cemegol manwl, uwch a dadansoddol sy'n berthnasol er mwyn nodi'n gyflym ac yn ddibynadwy sylweddau seicoweithredol newydd anhysbys/na wyddys lawer amdanynt/ NPS o hylifau biolegol (y cyfeirir atynt yn aml fel gwefrau cyfreithlon, cyffuriau yw'r rhain sy'n atgynhyrchu effeithiau sylweddau anghyfreithlon eraill); a astudiaethau unigryw sy'n canolbwyntio ar rôl actifadu derbynyddion cannabinoid wrth reoleiddio cylch cysgu/effro." Yr Athro Fabrizio Schifano, Prifysgol Swydd Hertford