Dyddiad cau: 20 Mai 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwyr cyllid: Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe ac Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caeredin

Meysydd pwnc: Ffiseg, Mathemateg a Chyfrifiadureg

Dyddiad dechrau'r prosiect:

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi)

Goruchwylwyr y prosiect:

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Ffiseg

Dull Astudio: Amser llawn 

Mae rhestr STFC o heriau gwyddoniaeth ar gyfer y gymuned ffiseg gronynnau ac astroffiseg yn amlygu'r angen i ddod o hyd i estyniadau dichonol i’r Model Safonol, i esbonio mater tywyll, ynni tywyll, anghymesuredd mater/gwrthfater, tarddiad y raddfa electro-gwan. Mae damcaniaethau medryddion Sp(2N) sydd wedi'u cysylltu'n gryf yn darparu amgylchedd cymhellol i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Mae grwpiau Damcaniaeth Maes Dellt Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caeredin mewn sefyllfa unigryw i gyflawni cyfrifiadau manwl gywir sy'n nodweddu damcaniaethau Sp(2N), gan eu bod nhw wedi arwain astudiaethau rhifyddol arloesol. Fel rhan o gydweithrediad sefydledig sy'n cynnwys ymchwilwyr yn Korea, Taiwan a sefydliadau partner eraill, gwnaethom ddatblygu meddalwedd flaengar newydd (sy'n ffynhonnell agored) drwy weithio ar saernïaeth uwchgyfrifiadura sy'n seiliedig ar unedau prosesu graffeg ac unedau prosesu canolog, gan greu cyfleoedd digynsail ar gyfer arweinyddiaeth fyd-eang yn yr is-faes ymchwil cyfrifiadurol-ddwys hwn.

Bydd y myfyriwr yn ymuno â’r rhaglen ymchwil hon sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, gan gynnal astudiaethau rhifyddol o ddamcaniaethau maes newydd sydd wedi'u cysylltu'n gryf drwy achub ar y cyfle i ddefnyddio adnoddau uwchgyfrifiadura mewn cyfleusterau ym Mhrifysgol Abertawe, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Bydd y myfyriwr yn cyflawni'r astudiaeth rifyddol hynod fanwl gywir estynedig gyntaf o fodelau o'r fath, gan gyfrifiannu ei data sbectrosgopeg a strwythur cyfnodau a meincnodi cymwysiadau ffenomenolegol ar y rhyngwyneb rhwng ffiseg gronynnau ac astroffiseg.

Mae'r rhaglen PhD ar y cyd hon wedi'i chynnal, ei hariannu a'i goruchwylio ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caeredin. Bydd rhaglen symudedd yn caniatáu i'r myfyriwr fanteisio ar gyfleoedd gwyddonol a hyfforddiant sydd ar gael yn y ddau sefydliad. Bydd yn ymuno â chymuned ryngwladol, fywiog ac amrywiol sydd â hanes da o gyflawni rhagoriaeth mewn ymchwil, hyfforddiant a goruchwylio myfyrwyr ac sydd â rhwydwaith rhyngwladol estynedig o gydweithrediadau ymchwil, yng ngrŵp Damcaniaethau Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg ym Mhrifysgol Abertawe, ynghyd ag Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a Chanolfan Higgs ar gyfer Ffiseg Ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Caeredin.

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig ar lefel 2.1 neu radd Meistr ar lefel gyffredinol ‘Teilyngdod’ o leiaf (neu gymhwyster cyfatebol o'r tu allan i'r DU, fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe). Os ydych chi'n gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth ond nid oes gennych radd o'r DU, gallwch wirio ein gofynion mynediad cymharol (gweler cymwysterau penodol i wledydd).Sylwer y gall fod angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn rhugl yn Saesneg.

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o o leiaf 6.0 ym mhob elfen unigol) neu gyfwerth sy'n cael ei gydnabod gan Brifysgol Abertawe.  Ceir manylion llawn am ein polisi iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau, yma. 

Mae'r ysgoloriaeth hon ar agor i ymgeiswyr o bob cenedligrwydd.

ATAS

Sylwer bod y rhaglen yn mynnu bod rhai ymgeiswyr yn cael cymeradwyaeth ATAS. Mae rhagor o fanylion am gymhwysedd ATAS ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.     

NID oes rhaid cael cymeradwyaeth ATAS fel rhan o'r broses cyflwyno cais am ysgoloriaeth. Bydd y rhai sy'n llwyddo i sicrhau dyfarniad (fel y bo'n briodol) yn derbyn y manylion ynghylch sut i gyflwyno cais am gymeradwyaeth ATAS ar y cyd â chynnig y cwrs a’r ysgoloriaeth.

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffioedd dysgu ynghyd â chyflog blynyddol o £19,237. 

Bydd costau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Myfyrwyr sy'n gymwys am ffïoedd rhyngwladol:

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gynnig  Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil Ôl-raddedig Rhyngwladol Prifysgol Abertawe (SUIPRES) sy'n talu am y gwahaniaeth rhwng y ffïoedd dysgu Rhyngwladol a'r ffïoedd dysgu Cartref/y DU ar gyfer hyd y rhaglen PhD/Doethuriaeth Broffesiynol. Caiff yr holl ymgeiswyr rhyngwladol eu hystyried am Ysgoloriaeth SUIPRES. Rhoddwn wybod i ti yn dy lythyr cynnig a fydd Ysgoloriaeth SUIPRES yn cael ei gynnig neu beidio.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Ffiseg / Ph.D./ Amser llawn / 3 blynedd / Hydref

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS610 - Lattice Field'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe:

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir lle bynnag y bo modd:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â'r Athro Maurizio Piai (m.piai@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.