Trosolwg o'r Cwrs
Disgwylir i’r cwrs gael ei ail-ddilysu ym mis Mawrth 2024.
Bwriad y Diploma Gradd Meistr / ôl-raddedig hon yw datblygu ymarferwyr Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol i weithio'n annibynnol mewn ystod o leoliadau cymunedol iechyd cyhoeddus.
Mae Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Maent yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion a theuluoedd ac yn gweithio gydag ystod o wahanol weithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys nyrsys meithrin, gweithwyr cymdeithasol, meddygon teulu ac addysg.
Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer gwaith mewn lleoliadau cymhleth ac amrywiol gan gynnwys cartrefi, ysgolion a'r gymuned ehangach. Byddwch yn dod yn ymarferydd gwybodus gyda galluoedd rheoli a rhyngbersonol rhagorol.