Trosolwg o'r Cwrs
Bydd Nyrsio Gofal Critigol ar gyfer Oedolion yn paratoi pob nyrs gofal critigol i gael ei haddysgu i'r lefel uchaf, gan sicrhau gofal o ansawdd i gleifion sy'n ddifrifol wael.
Mae’r dystysgrif ôl-raddedig ran-amser (PGCert) blwyddyn o hyd yn cael ei chomisiynu gan AaGIC, a bydd yn cael ei datblygu, ei dylunio a’i chyflwyno gyda’r byrddau iechyd partner presennol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac mae wedi’i chefnogi gan sefydliadau gofal critigol cenedlaethol gan gynnwys Cymdeithas Nyrsys Gofal Critigol Prydain a Phwyllgor Nyrsio Gofal Critigol Cymru Gyfan.
Erbyn diwedd y rhaglen hon, byddwch yn gallu dangos perfformiad medrus a darparu gwybodaeth ddamcaniaethol well fel nyrs gofrestredig gofal critigol cofrestredig. Yn dilyn cwblhau'r cwrs, bydd gennych dystysgrif ôl-raddedig a gydnabyddir yn genedlaethol mewn nyrsio gofal critigol fel y nodir yn y Canllaw Darpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Gofal Dwys (GPICs).
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 1 Awst 2024.