Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Cyfieithu Tsieinëeg-Saesneg ac Addysgu Iaith ar gael os ydych yn siarad Mandarin fel iaith gyntaf ac o Tsieina, ac â diddordeb mewn gyrfa iaith gymhwysol fel cyfieithu ac addysgu Saesneg neu Tsieinëeg fel iaith dramor.
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i feithrin sgiliau iaith-benodol mewn astudiaethau cyfieithu ac ieithyddiaeth gymhwysol. Mae'n anelu at osod maes eang cyfieithu mewn cyd-destun penodol, gan gyfieithu rhwng y Saesneg a'r Tsieinëeg.
Byddwch yn edrych ar siaradwyr nad ydynt yn frodorol sy'n athrawon Saesneg, astudiaethau iaith gymhwysol, a chyfieithu ac addysgu Saesneg neu Tsieinëeg fel ail iaith.
Mae ein gradd yr un mor ddeniadol i athrawon Mandarin sydd am feithrin gwybodaeth mewn theori ac ymarfer ieithyddiaeth gymhwysol.