Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA Estynedig mewn Cyfieithu a Dehongli (MATI) yn amrywiad arbenigol unigryw o'n cwrs Cyfieithu Proffesiynol, gyda phwyslais ar sgiliau dehongli. Mae'n eich helpu i ddatblygu o fod yn siaradwr iaith dramor ardderchog i fod yn ieithydd proffesiynol llwyddiannus.
Bydd eich astudiaethau cyfieithu uwch yn canolbwyntio ar fathau cyffredinol, gweinyddol a thechnegol o destun, gan ddehongli mewn un neu ddau o blith llywodraeth leol, iechyd, yr heddlu a'r llysoedd, a hyfforddiant ar adnoddau cyfieithu â chymorth cyfrifiadur sy'n cyrraedd safon y diwydiant.
Mae rhan gyntaf y radd yn cynnwys y cyfle i arbenigo mewn dehongli, cyfieithu clywedol, cyfieithu peirianyddol a lleoli meddalwedd, rheoli terminoleg, creu fideo neu gyhoeddi digidol.
Yn y modiwl profiad gwaith ym maes cyfieithu byddwch yn dynwared cwmnïau cyfieithu drwy weithio gyda busnesau cyfieithu lleol a chyflawni gwaith comisiynu go iawn i safonau proffesiynol.
Yn ail ran y radd cewch ddewis o ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos gyda chwmni cyfieithu yn y DU neu dramor.
Parau iaith (yn amodol ar alw):
- Almaeneg > Saesneg
- Saesneg > Almaeneg
- Ffrangeg > Saesneg
- Saesneg > Ffrangeg
- Eidaleg > Saesneg
- Saesneg > Eidaleg
- Sbaeneg > Saesneg
- Saesneg > Sbaeneg
- Cymraeg > Saesneg
- Saesneg > Cymraeg
- Saesneg > Arabeg
- Saesneg > Mandarin
Opsiwn ail gam unigryw yw blwyddyn dramor METS, lle byddwch yn astudio 50 credyd mewn dwy ysgol gyfieithu bartner, gydag adroddiad 20 credyd ar gyfer Abertawe yn arwain at ddyfarniad dwbl: MA Abertawe yn ogystal â Diploma METS.