Trosolwg o'r Cwrs
Ni fu dealltwriaeth academaidd o fywyd cefnfor ledled y byd erioed yn bwysicach.
Mae'r Flwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr dreulio cyfnod rhwng 9 a 12 mis (o leiaf 40 wythnos) mewn sefydliad ymchwil i feithrin profiad ymchwil uniongyrchol gwerthfawr. Yn ystod y lleoliad gwaith, byddwn yn gweithio mewn grŵp ymchwil ac yn cynnal y gweithgareddau ymchwil beunyddiol sy'n berthnasol i'r ddisgyblaeth.
Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil uwch, megis meistroli technoleg, dulliau dadansoddi ac arolygu priodol, wrth ddysgu sut i ddefnyddio dulliau perthnasol o ddylunio arbrofol, casglu a dadansoddi data. Gallwch hefyd gyfrannu at ysgrifennu adroddiadau technegol, gan chwilio am lenyddiaeth berthnasol a'i chyfuno, a chyfleu gwybodaeth dechnegol.