Dyddiad cau: 24 Mai 2024 (23:59 BST)

Gwybodaeth Allweddol

Darparwyr cyllid: Prifysgol Abertawe

Meysydd pwnc: Peirianneg Awyrofod

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • Gorffennaf 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Mehefin) 

Goruchwylwyr

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Peirianneg Awyrofod

Dull astudio: Amser llawn

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gynnig Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES) a ariennir yn llawn i fyfyrwyr doethurol amser llawn ar gyfer ei phumed garfan.

Ydych chi'n ymgeisydd PhD brwdfrydig sy'n angerddol am dechnoleg awyrofod? Rydym yn chwilio am feddyliwr disglair i arwain gwaith ymchwil sy'n torri tir newydd wrth ddylunio Uned Mesur Inertiaidd (IMU) hynod sensitif ar gyfer rhagoriaeth awyrofod. 

Mae IMU yn cyfrannu'n sylweddol at weithrediadau awyrofod drwy ddarparu gwybodaeth amser real a dibynadwy am fudiant, cyfeiriadaeth a chyflymiad. Mae ganddynt rôl hanfodol wrth sicrhau diogelwch, cywirdeb ac effeithlonrwydd gweithrediadau awyrofod amrywiol. Mae rhai o'r cymwysiadau pwysig iawn yn cynnwys llywio a rheoli hediadau, pennu osgo, sefydlogrwydd geirosgopig, afreidrwydd a dibynadwyedd, archwilio'r gofod, profi awyrennau a llongau gofod, ac offeryniaeth fanwl gywir.  

Prif nod y prosiect hwn yw datblygu Uned Mesur Intertiaidd â lefel eithriadol o sensitifrwydd. Mae ein ffocws ar ddylunio synhwyrydd sy'n gallu canfod a mesur yn fanwl gywir hyd yn oed y newidiadau lleiaf mewn cyflymiad, cyflymder onglaidd a chyfeiriadaeth. Drwy ddylunio manwl a defnyddio'r cyfleusterau o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Abertawe, ein nod yw dyfeisio a dilysu perfformiad yr IMU. Mae hyn yn cynnwys gweithgynhyrchu manwl gywir a phrofi trylwyr i sicrhau bod y synhwyrydd yn rhagori ar safonau sensitifrwydd presennol. 

Bydd y darpar ymgeisydd yn gweithio mewn grŵp cefnogol uchel ei gymhelliant lle mae cydweithio ac arloesi'n ffynnu. Mae ein tîm yn meithrin amgylchedd sy'n annog cyfathrebu agored, rhannu gwybodaeth a datrys problemau yn greadigol. Fel aelod o'r grŵp deinamig hwn, bydd gennych gyfle i weithio gydag ymchwilwyr, peirianwyr ac arbenigwyr medrus ym maes technoleg awyrofod. Gyda'n gilydd, rydym yn ymroddedig i wthio ffiniau dyluniad IMU, gan ysgogi datblygiadau a fydd yn llywio dyfodol cymwysiadau awyrofod. Ymunwch â ni i fod yn rhan o gymuned sy'n gwerthfawrogi eich cyfraniadau ac sy'n ymrwymedig i greu effaith sylweddol ar y  diwydiant awyrofod. 

Cymhwyster

Rhaid bod ymgeiswyr wedi ennill, neu'n disgwyl ennill, gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a/neu radd Meistr gyda Rhagoriaeth. Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth ond nid oes gennych radd yn y DU, gallwch wirio ein gofynion mynediad cymaradwy (gweler cymwysterau penodol i wledydd). Sylwer y gall fod angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hyfedredd Iaith Saesneg. 

  • Lle bydd gan ymgeiswyr fwy nag un radd Meistr, rhaid eu bod wedi cyflawni Rhagoriaeth yn y radd sy'n fwyaf perthnasol i'r maes astudio PhD arfaethedig.

Gan mai rhaglen sy'n seiliedig ar garfan yw hon, ni chaniateir gohirio i gyfnod cofrestru arall o fewn y flwyddyn academaidd nac i flwyddyn academaidd arall.

Sylwer bod y gofynion mynediad o ran gradd a hyfedredd iaith ar gyfer SURES yn uwch na'r isafswm gofynion mynediad a nodir ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni PhD ym Mhrifysgol Abertawe.

Oherwydd cyfyngiadau o ran cyllid, mae'r ysgoloriaeth hon ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu ar gyfradd y DU yn unig, fel y’u diffinnir gan reoliadau UKCISA.  

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu holl ffïoedd dysgu'r DU gan gynnwys cyflog blynyddol ar £18,622.

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Peirianneg Awyrofod / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Gorffennaf

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS613 - SURES'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Dr Hadi Madinei (Hadi.Madinei@abertawe.ac.uk.

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.