Trosolwg o'r Cwrs
Oherwydd ei gyfuniad o ymchwil, damcaniaeth a mewnwelediadau ymarferol, mae’r MSc Seicoleg Chwaraeon yn gwrs cynhwysfawr a deinamig sydd wedi'i lunio i'ch galluogi chi i ennill yr wybodaeth graidd, y sgiliau ymarferol a'r gallu y mae eu hangen arnoch chi i fod yn ymarferwyr gwyddonol, sy'n canolbwyntio ar foeseg, dulliau empirig a damcaniaethau, ym maes seicoleg chwaraeon.
Bydd myfyrwyr yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau ar draws wyth cymhwysedd craidd seicoleg, yn amrywio o seicoleg gymdeithasol a gwybyddol i seicoleg ddatblygiadol. Rhoddir pwyslais cryf ar roi arweiniad i fyfyrwyr ynghyd â chipolwg ar weithio fel ymarferydd cymhwysol yn y maes hwn.
Pam Seicoleg Chwaraeon yn Abertawe?
- Ymysg y 51-100 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2024)
- Ymysg yr 20 gorau yn y DU am Ansawdd Ymchwil (The Complete University Guide 2024)
- 100% o'n heffaith yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021
Staff Arbenigol: Byddwch chi'n dysgu gan academyddion ac ymarferwyr profiadol ym maes Seicoleg Chwaraeon sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i lwyddo. Mae gan ein harbenigwyr gefndiroedd a diddordebau ymchwil amrywiol, gan sicrhau profiad addysgol cyflawn.
Ymchwil sy'n torri tir newydd: Byddwch chi'n dod i gyswllt â'r ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf ym maes Seicoleg Chwaraeon. Mae Prifysgol Abertawe'n adnabyddus am ei chyfraniadau at ymchwil ym maes seicoleg chwaraeon, a bydd gennych chi gyfle hefyd i arsylwi ar brosiectau sydd ar y gweill.
Datblygu Gyrfa: Byddwch chi'n derbyn arweiniad a chymorth ar gyfer eich nodau o ran gyrfa. P’un a ydych chi'n dyheu am weithio gydag athletwyr elitaidd, timau chwaraeon neu bobl ifanc, neu a ydych chi am ymgymryd ag ymchwil ymhellach, bydd y rhaglen hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn damcaniaeth ac ymarfer Seicoleg Chwaraeon.
Cyfleoedd Ymchwil: Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgymryd â PhD neu yrfa ymchwil, bydd ein rhaglen yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer eich ymdrechion academaidd yn y dyfodol.
Cymuned Fyd-eang: Byddwch chi'n ymuno â charfan amrywiol o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, gan feithrin amgylchedd dysgu amlddiwylliannol ac ehangu eich safbwynt byd-eang.
Lleoliad Prydferth: Byddwch chi'n mwynhau harddwch naturiol trawiadol Abertawe a lleoliad ein Campws y Bae yn agos at ei bromenâd glan môr ei hun.
Eich Profiad Seicoleg Chwaraeon
Bydd yr MSc Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe'n symud o ddamcaniaeth i broses ac yna i gynnyrch – gan helpu myfyrwyr i ennill yr wybodaeth a'r mewnwelediadau y mae eu hangen arnynt i werthuso a chymhwyso'n feirniadol ymchwil seicoleg chwaraeon ar draws poblogaethau, cyd-destunau a lleoliadau amrywiol.
Bydd yr ymagwedd hon sy'n symud o ddamcaniaeth i ymarfer ac yna i gynnyrch yn sicrhau bod myfyrwyr yn deall damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol a chyfoes ym maes seicoleg chwaraeon, yn ogystal ag ennill mewnwelediadau helaeth i sut i fod yn seicolegydd chwaraeon effeithiol sy’n ymarfer ar draws lleoliadau a dulliau cyflogaeth gwahanol. Bydd yr ymagwedd hon yn sicrhau y gall myfyrwyr sy'n graddio ddechrau gweithio mewn maes sy'n tyfu ac yn datblygu'n gyflym ar ôl iddynt ennill yr wybodaeth sylfaenol, y mewnwelediadau beirniadol a'r sgiliau ymarferol y mae eu hangen arnynt i addasu, datblygu ac, yn y pen draw, lwyddo i ddeall, rhagweld a gwella perfformiad athletwyr elît ac amatur mewn chwaraeon tîm ac unigol.
Cyfleoedd Cyflogaeth Seicoleg Chwaraeon
Dyluniwyd y rhaglen hon gan ystyried sgiliau cyflogadwyedd ac entrepreneuraidd penodol. Bydd gan raddedigion o'r MSc Seicoleg Chwaraeon y potensial i fod yn seicolegwyr chwaraeon achrededig. Bydd hyn yn galluogi graddedigion i weithio fel seicolegwyr chwaraeon hunangyflogedig neu gyda thimau chwaraeon a sefydliadau chwaraeon, sef cyfle sy'n tyfu. Gall rhai hefyd fynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaethau PhD, neu fod yn ymchwilwyr neu'n ymarferwyr mewn sefydliadau chwaraeon neu'n ymgynghorwyr ffordd o fyw.
Lleoliadau Gwaith:
Nid oes gofyniad i gwblhau lleoliadau gwaith yn ffurfiol yn ystod y radd. Fodd bynnag, rhoddir cyfleoedd i fyfyrwyr gael mynediad at leoliadau arsylwi ac efallai y byddant am achub ar y cyfleoedd hyn i ddatblygu eu sgiliau a'u CV. Yn benodol, mae gan y tîm addysgu gysylltiadau cryf â chyrff lleol a chenedlaethol a thrwy weithio gyda nhw, mae'r tîm yn gallu cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio arnynt, o arsylwi ar benwythnosau hyfforddiant, i arsylwi'n fwy rheolaidd ar sesiynau ymarfer a gemau a chyflwyno gweithdai addysgol o dan oruchwyliaeth. Caiff yr holl gyfleoedd eu hysbysebu i garfan y myfyrwyr a chynhelir proses cyfweld gyda'r partner (os bydd angen ac os bydd digon o ddiddordeb) ac yna bydd myfyrwyr yn cael mynediad at y lleoliad. Disgwylir i'r cyfleoedd am leoliadau fod yn hyblyg, gan amrywio o ychydig oriau i ymrwymiadau mwy rheolaidd i sicrhau eu bod mor hygyrch â phosib. Sylwer y bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol ystyried y goblygiadau o ran uchafswm nifer yr oriau y caniateir iddynt eu gweithio'n unol ag amodau eu fisa.
Ar ben hynny, rhoddir pwyslais penodol ar ddatblygu ac ymarfer sgiliau cymhwysol drwy seminarau a addysgir, trafodaethau wedi'u hwyluso a chyfleoedd dysgu unigol gan gynnwys cyfleoedd i gwblhau lleoliadau. Yn ogystal â hyn, drwy gydol y radd, bydd gan fyfyrwyr gyfle i siarad yn uniongyrchol ag athletwyr i ddysgu am eu profiadau personol ac ennill dealltwriaeth well o gymhlethdod a naws bywyd athletwr ar adegau gwahanol yn ei fywyd ac ar gamau gwahanol yn ei yrfa. Ar ben hynny, bydd myfyrwyr hefyd yn dod i gyswllt ag ymarferwyr seicoleg chwaraeon drwy gydol y radd, gan ddysgu'n uniongyrchol o'u profiadau a deall o lygad y ffynnon sut i lwyddo fel seicolegydd chwaraeon.