Mae’r rhaglen yn defnyddio dull dysgu cyfunol sy’n cynnwys dulliau addysgu traddodiadol wyneb yn wyneb, dysgu ymarferol a hunangyfeiriedig, a sesiynau grŵp bach. Bydd y rhan fwyaf o fodiwlau yn wythnosau dysgu dwys, lle bydd myfyrwyr yn mynychu'r campws am wythnos gyfan. Bydd Arfer Adalw hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o annog a datblygu cyfleoedd dysgu cyfoedion i ddysgu, addysgu ac asesu.
Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i weddu i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein yn unig, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu personol, ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Cynhelir sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai wyneb yn wyneb yn bennaf, gan ganiatáu ar gyfer gwaith grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein hymagwedd hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Gall dysgu ar-lein ddigwydd yn ‘fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy’n eich galluogi i ryngweithio â’r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailymweld â deunydd, i adolygu ar gyfer asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol yn Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.