Sut ydw i'n cyflwyno cais am gyllid?
Dilynwch y broses o gyflwyno cais ar gyfer y Rhaglen, bydd panel ariannu yn penderfynu a ydych chi'n gymwys am gyllid.
Beth yw'r broses am gyflwyno cais am gyllid ar gyfer MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), Anghenion Dysgu Ychwanegol MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) ac Arweinyddiaeth MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)?
Mae un set o feini prawf cyllido ar gyfer yr MA Cenedlaethol a’r holl lwybrau ar gyfer dechrau yn 2022. Dylai ymgeiswyr o ysgolion annibynnol a’r Rhanbarthau gyfeirio at feini prawf cyllido llwybr ADY ac Arweinyddiaeth yn unig.
Ydw i'n gymwys am gyllid?
Gweler y meini prawf cyllido.
Mae'r meini prawf cymhwysedd i dderbyn cyllid yn nodi bod rhaid i mi fod rhwng blwyddyn 3 a blwyddyn 6 ymarfer ar ddechrau'r cwrs, beth mae hyn yn ei olygu?
Golyga hyn fod rhaid i chi fod rhwng blwyddyn 3 a blwyddyn 6 ymarfer addysgu ar ôl i chi gwblhau eich cyfnod sefydlu ANG yn llwyddiannus.
Pam mae'r cyllid ar gael ar gyfer athrawon rhwng blynyddoedd 3 a 6 ymarfer yn unig?
Cynigir y cyllid ar gyfer y rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru fel ran o Becyn Athrawon Gyrfa Gynnar.
Nid wyf rhwng blynyddoedd 3 a 6 ymarfer - beth yw fy opsiynau o ran cyllid?
Ar gyfer Lleoedd mewn Ysgolion Partner Addysg Gychwynnol i Athrawon, rhaid bod ymgeiswyr yn dod o ysgol bartner. Cysylltwch â rheolwr y rhaglen am ragor o wybodaeth.
Ar ôl i mi gwblhau fy nghyfnod sefydlu ANG, treuliais i gyfnod o amser yn gweithio dramor/cymerais i seibiant o'm gyrfa, ydy hyn yn cyfrif?
Nid ystyrir amser a dreulir fel athro y tu allan i'r DU neu seibiant o'ch gyrfa fel blynyddoedd ymarfer.
A oes rhaid i mi gynnal fy nghofrestriad gyda'r CGA ar gyfer hyd y rhaglen?
Oes, dylech chi fod wedi cofrestru gyda'r CGA fel athro neu athrawes (a rhaid cynnal hwn drwy gydol hyd y rhaglen).
Oes rhaid i mi gael contract addysgu ar gyfer isafswm cyfnod o amser, e.e. tymor/blwyddyn academaidd? Beth sy'n digwydd os bydd fy nghontract yn dod i ben yn ystod y rhaglen?
Oes, cyhyd â'ch bod wedi'ch cyflogi ar gontract sydd o leiaf 0.4 CALl, gall hyn gynnwys athrawon/darlithwyr cyflenwi sydd ar gontractau hirdymor naill ai gydag Awdurdod Lleol, ysgol, coleg neu asiantaeth.
Rwy'n gweithio fel athro mewn nifer o ysgolion ac mae fy nghontractau'n fwy na 0.4 CALl. Ydw i'n gymwys i dderbyn cyllid?
Ydych, cyhyd â bod eich contractau'n cynnwys 0.4 CALl neu fwy, rydych chi'n gymwys i wneud cais am gyllid.
Rwy'n athro rhan-amser a/neu'n athro cyflenwi, allaf i gyflwyno cais am gyllid?
Gallwch, cyhyd â bod eich contractau'n cynnwys 0.4 CALl neu fwy, rydych chi'n gymwys i wneud cais am gyllid.
Rwyf wedi cofrestru gyda'r CGA ond nid o dan categori athro ysgol, ydw i'n gymwys o hyd i gyflwyno cais am gyllid?
Nac ydych, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda'r CGA yng nghategori athro ysgol i fod yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid.
Oes rhaid i mi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl i mi gwblhau'r MA mewn Addysg?
Wrth dderbyn y cynnig hwn am grant, gofynnir i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, o fewn y system addysg a gynhelir am o leiaf ddwy flynedd ar ôl iddynt gwblhau'r rhaglen.
Hoffwn i ariannu fy hun, faint yw’r ffïoedd?
Os ydych am hunan-ariannu eich cwrs, siaradwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, gall y ffi fod yn wahanol i’r hyn a nodir ar hyn o bryd ar gyfer myfyrwyr sy’n hunan-ariannu.
Gofyniad preswyliad (cyn astudio)
Er mwyn i chi fod yn gymwys i dderbyn cyllid, rhaid eich bod chi'n byw yng Nghymru (ni nodir terfyn ar amser).
Rwyf eisoes wedi ymgymryd ag astudiaethau ar lefel gradd Meistr, ydw i'n gymwys i dderbyn cyllid ar gyfer y rhaglen hon?
Os ydych chi eisoes wedi astudio rhaglen Meistr sy'n benodol i'r pwnc yna byddwch chi'n gymwys o hyd i gyflwyno cais am gyllid (gan ddibynnu ar fodloni'r holl feini prawf eraill). Sylwer os ydych chi eisoes wedi ymgymryd â gradd MEd a ariennir yna ni fyddwch chi'n gymwys i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer yr MA Cenedlaethol.
Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus, sut gallaf apelio yn erbyn y penderfyniad?
Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) gysylltu â Chadeirydd y Panel yn y lle cyntaf.
Pwy sy'n penderfynu ar ddyrannu cyllid?
Ar ôl iddo dderbyn eich cais, bydd y tîm Derbyn Myfyrwyr yn y sefydliad o'ch dewis yn sicrhau eich bod chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Yna bydd Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn asesu'r holl geisiadau cymwys i benderfynu ar y canlyniad a dyfarnu cyllid i'r sawl sy'n llwyddiannus. Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob Prifysgol Bartner ac mae'n adrodd i'r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol (sy'n cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru), i sicrhau atebolrwydd a goruchwylio amlwg.
Sawl lle wedi'i ariannu sydd ar gael?
Ceir 500 o leoedd wedi'u hariannu ar draws partneriaeth yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru).
Sawl lle wedi'i ariannu sydd ar gael ar y llwybrau Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arweinyddiaeth arbenigol?
Ceir 30 o leoedd ar gyfer y llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol a 50 o leoedd ar gyfer y llwybr Arweinyddiaeth, nid ychwanegir y rhain at y 500 o leoedd ond byddant yn ffurfio rhan o'r garfan hon sy'n bodloni'r meini prawf penodol.
Ydw i'n gymwys am fenthyciad myfyriwr?
Nac ydych.
Rwy'n gweithio mewn ysgol bartner Addysg Gychwynnol i Athrawon ym Mhrifysgol X, a oes unrhyw gyllid sy'n benodol i fi?
Mae cyllid partner Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer myfyrwyr mewn Ysgolion Partner Addysg Gychwynnol i Athrawon sy'n gysylltiedig â Phrifysgol benodol yn unig. Rhaid bod ymgeiswyr yn cefnogi myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon.