Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu dulliau cyfrifiadol a’u rhoi ar waith ar gyfer efelychu’n rhithwir amrywiaeth eang o broblemau ffisegol, gan gynnwys mecaneg solet, deinameg hylifau, symudiad tonnau ac aml-ffiseg.
Mae ymgeiswyr am y cwrs MSc hwn fel arfer yn fyfyrwyr sydd â chefndir mewn peirianneg (fecanyddol, awyrofod, sifil neu drydanol) neu wyddoniaeth (mathemateg, ffiseg). Rhaglen amlddisgyblaethol yw hon, gyda modiwlau sy'n addas i'r rhai sydd am ddatblygu sgiliau peirianneg gyfrifiadol er mwyn gwella eu gyrfaoedd ym maes peirianneg a gwyddoniaeth.
Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu cadarn a bydd modd iddynt deilwra eu gradd drwy ddewis arbenigo yn un o'r tri maes sydd ar gael iddynt:
Offer meddalwedd: Bydd y myfyrwyr yn arbenigo mewn datblygu meddalwedd gyfrifiadol yn ogystal â'r defnydd o feddalwedd fasnachol i ddatrys problemau peirianyddol a gwyddonol y byd go iawn.
Dulliau a ysgogir gan ddata: Bydd y myfyrwyr yn arbenigo mewn integreiddio dulliau rhifiadol a thechnegau dysgu peirianyddol gyda data mawr er mwyn datrys problemau peirianyddol a gwyddonol y byd go iawn.
Technegau rhifiadol: Bydd y myfyrwyr yn arbenigo mewn datblygu a dadansoddi dulliau cyfrifiadol modern, gan ganolbwyntio'n arbennig ar waith ymchwil.
Mae'r MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol yn un o'r tri chwrs MSc Cyfrifiadol y mae Prifysgol Abertawe yn eu cynnig. Gallwch weld rhestr lawn o'r rhaglenni yma.
Pam astudio Peirianneg Gyfrifiadol?
Erbyn hyn mae modelu ac efelychu cyfrifiadurol yn ddull sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth mewn diwydiant, nid yn unig i ategu arbrofion a damcaniaethau, ond hefyd fel dull darganfod. Mae'r maes yn tyfu'n gyflym oherwydd cymhlethdod cynyddol y problemau a wynebir gan fyd diwydiant a’n cymdeithas. Mae'r problemau hyn yn cynnwys yr angen i liniaru'r newid yn yr hinsawdd, yr angen i ddyfeisio deunyddiau newydd ac i optimeiddio cydrannau, systemau, a phrosesau, ac enwi ychydig yn unig.
Yr unig ffordd o fynd i'r afael â'r heriau hyn yw drwy ddefnyddio peirianneg gyfrifiadol i ategu gwaith arbrofol. Mae offer cyfrifiadol hefyd yn darparu llwybr unigryw i gwmnïau leihau amser-i'r-farchnad ac amser-i-weithgynhyrchu ar gyfer eu cynnyrch. Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae defnyddio data mawr a dysgu peirianyddol i ddiweddaru'r modelau'n gyson hefyd wedi agor y drws i ddatblygu gefeilliaid digidol mewn sawl maes peirianneg a gwyddoniaeth.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.
Mae cymorth ac arweiniad ar gael i helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith ond nid yw hyn wedi'i warantu. Ffioedd cwrs yr ail flwyddyn yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Gweler rhagor o fanylion am Sut i Gyflwyno Cais am yr MSc gyda Diwydiant isod.
Pam Peirianneg Cyfrifiadol yn Abertawe?
Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad sy'n arwain y byd o ran Peirianneg Gyfrifiadol ers y 1960au, pan ymunodd yr Athro Zienkiewicz â Phrifysgol Abertawe. Mae'r Athro Zienkiewicz yn adnabyddus yn fyd-eang fel "Tad y Dull Elfen Feidraidd" a sefydlodd yr International Journal of Numerical Methods in Engineering a Chymdeithas y DU ar gyfer Mecaneg Gyfrifiadol. Ers hynny, mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal safle rhyngwladol breintiedig ym maes Peirianneg Gyfrifiadol.
Mae Pwyllgor Llywio Diwydiannol, sydd ag arbenigwyr diwydiannol mewn peirianneg gyfrifiadol, yn cynghori’r MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol gyda Diwydiant. Mae aelodau'r Pwyllgor Llywio Diwydiannol yn cynnwys:
Addysgir y cwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol gan academyddion sydd gyda'r goreuon yn y byd o Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gan yr academyddion hyn brofiad eang o greu dulliau rhifiadol newydd a darparu offer cyfrifiadol sydd wedi'u mabwysiadu gan fyd diwydiant, gan gynnwys Airbus, BAE Systems, Chevron, NASA, SEAT, Siemens, Volkswagen.
Yn ogystal â hynny, mae'r academyddion hyn wedi ysgrifennu llyfrau enwog ym maes Peirianneg Gyfrifiadol, ac mae ganddynt rolau pwysig mewn cymdeithasau cenedlaethol a rhyngwladol yn y maes.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol yn gallu dewis pwnc eu traethawd hir ymhlith ystod eang o themâu. Bydd gan fyfyrwyr fynediad am ddim at yr holl feddalwedd sydd ei hangen i ymgymryd â'u hastudiaethau, ar gyfrifiaduron y Brifysgol ac yn eu cartrefi. Ar gyfer eu traethawd hir bydd ganddynt hefyd fynediad at y cyfleusterau cyfrifiadura perfformiad uchel sydd ar gael yn Abertawe, gan gynnwys y Clwstwr Effaith a chyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru yn Abertawe, sydd â chyfanswm o 4,920 o greiddiau a 47 Tb o gof RAM.
Cyfleoedd Cyflogaeth
Mae ystod eang o gyfleoedd ar gael i raddedigion y cwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol. Bydd cyfle iddynt gael swyddi ym myd diwydiant neu yn y byd academaidd, gan ddibynnu ar eu diddordebau.
O ganlyniad i sgiliau unigryw peiriannydd cyfrifiadol, mae'r cyflog disgwyliedig fel arfer yn uwch na chyflog peiriannydd safonol fel arfer. Er enghraifft, yn y DU, cyflog cyfartalog peiriannydd cyfrifiadol ym mis Tachwedd 2022 oedd £43,000, tra mai £38,000 oedd cyflog cyfartalog peiriannydd . Mae'n werth nodi bod cyflogwyr sy'n chwilio am raddedigion yn defnyddio naill ai "Peiriannydd Cyfrifiadol", "Peiriannydd Modelu" neu "Beiriannydd Efelychu" yn eu disgrifiadau.
Mae cwmnïau sy'n cynnig swyddi i Beirianwyr Cyfrifiadol yn cynnwys rhai o'r brandiau enwocaf ledled y byd, sef Alphabet, Amazon, Apple, Boeing, Chevron, Coca-Cola, ExxonMobil, General Dynamics, HP, IBM, Intel, Meta, Microsoft, Nike, Pfizer, Tesla.
Ar ôl graddio, mae'n well gan rai myfyrwyr ddilyn PhD mewn Peirianneg Gyfrifiadol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn graddau PhD mewn nifer o brifysgolion blaenllaw ledled y byd, ac mae llawer o raddedigion Abertawe yn dal swyddi ymchwil neu academaidd mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil a datblygu uchel eu bri.