Ar ôl i'ch cynnig i astudio yn Abertawe gael ei dderbyn, bydd tîm Ewch yn Fyd-eang yn anfon gwybodaeth atoch sy'n cynnwys eich rhif myfyriwr, y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau eich cais am lety ar-lein. Ni allwch gwblhau eich cais heb yr wybodaeth gan dîm Ewch yn Fyd-eang.
Er nad ydym yn ymrwymo i ddarparu llety ar gyfer myfyrwyr ymweld a chyfnewid, mae croeso i chi gyflwyno cais serch hynny. I gael y cyfle gorau i sicrhau llety, dylech gyflwyno cais cyn:
Blwyddyn lawn (Medi – Mehefin): 30 Mehefin
Semester 1 (Medi – Ionawr): 30 Mehefin
Semester 2 (Ionawr – Mehefin): 30 Tachwedd
Pryd byddaf yn gwybod bod llety ar gael i mi?
Blwyddyn lawn: Fel arfer, bydd myfyrwyr ymweld a chyfnewid yn cael cynnig ystafelloedd ar ôl i ni gyflawni'n hymrwymiad i neilltuo ystafelloedd i'n myfyrwyr amser llawn. Bydd hyn yn digwydd ar ôl i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr dderbyn canlyniadau eu harholiadau tua diwedd mis Awst. Yna caiff cynigion eu hanfon bron bob dydd.
Un semester: Dylech dderbyn cynnig ystafell o fewn pythefnos i gyflwyno cais, neu o leiaf bythefnos cyn cyrraedd. Gwiriwch eich cyfrif e-bost a llety am y newyddion diweddaraf ynghylch neilltuo llety.
Fel arfer, ni fydd modd terfynu eich contract yn gynnar ar ôl i chi ei lofnodi. Bydd yn rhaid i chi gadw at amodau eich contract ac efallai y bydd angen i chi ymgymryd â phroses apelio er mwyn cael eich rhyddhau.
Talu eich Ffïoedd Llety
Myfyrwyr Ymweld o'r Unol Daleithiau sy'n Talu Ffïoedd yn Unig
Hyd yn oed os bydd eich prifysgol gartref yn Unol Daleithiau America'n talu costau eich llety'n uniongyrchol i Brifysgol Abertawe, chi sy'n gyfrifol am drefnu eich llety eich hun, ond ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth i ni heblaw am eich blaendal cadw lle wrth gyflwyno eich cais ar-lein. Cysylltwch â'r swyddfa astudio dramor yn eich prifysgol gartref i holi a yw hyn yn berthnasol i chi.