Dod o hyd i’ch cartref newydd yn Abertawe
Mae symud i mewn i lety'r Brifysgol yn rhan fawr o'ch profiad fel myfyriwr. Efallai mai dyma'r tro cyntaf i chi fod oddi cartref. Mae hyn yn hynod gyffrous, ond rydyn ni'n deall ei fod yn gam mawr, felly rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr israddedig yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf, ar yr amod eich bod chi'n cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin. Mae'r warant hon yn cynnig rhwyd ddiogelwch i chi sy'n golygu bod gennych un peth yn llai i boeni amdano.
Gall dod o hyd i'r llety cywir wneud gwahaniaeth go iawn o ran ymgartrefu ac rydym yn gwybod bod gennym rywbeth at ddant pawb. Mae gennym sawl opsiwn llety ar gael, ac mae tîm ymroddedig ein Gwasanaethau Preswyl wrth law i'ch helpu, bob cam o'r ffordd. Darllenwch ymlaen i weld pam gall llety'r brifysgol fod yn ddelfrydol i chi.
Pa opsiwn sydd orau i fi?
Mae dewis eich llety yn dibynnu ar sawl ffactor, megis y lleoliad yr hoffech chi fyw ynddo a'ch dewisiadau o ran trefniadau coginio a byw.
Mae ein hardaloedd llety dynodedig yn darparu llety un rhyw a dim alcohol, ac rydym hefyd yn darparu ar gyfer myfyrwyr hŷn, Cymry Cymraeg a myfyrwyr sy'n astudio pynciau nad yw eu cyrsiau o'r hyd arferol. Rydym yn deall bod pawb yn chwilio am brofiad gwahanol o fyw a'n nod yw eich helpu yn hyn o beth. Mae nifer o'n hystafelloedd wedi'u haddasu ac yn hygyrch. Rhowch fanylion ar eich cais os hoffech fyw yn un o'r ardaloedd hyn a gallwn ystyried hynny a gweithio gyda chi wrth ddyrannu eich llety.
Cymerwch gipolwg ar ein preswylfeydd i gael rhagor o wybodaeth am y llety gwahanol sydd ar gael yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf.
Byw oddi ar y campws
Mae rhai myfyrwyr yn penderfynu y byddai'n well ganddynt fyw oddi ar y campws mewn tai a fflatiau'r sector preifat yn Abertawe.
Mae ein cronfa ddata ar-lein o'r enw Studentpad, y gellir chwilio ynddi, yn gadael i chi ddod o hyd i dai preifat sydd ar gael yn yr ardal, gan hwyluso'r broses o chwilio am gartref.
Bydd aelodau tîm yn hapus i helpu a gallant roi cymorth i chi wrth ddod o hyd i'r profiad perffaith o fyw oddi ar y campws.
Angen rhagor o help wrth benderfynu beth sy'n iawn i chi?
Darllenwch ymlaen i weld pam gall llety'r brifysgol fod yn ddelfrydol i chi.
Dewch i glywed gan rai o'n myfyrwyr am lety ar y campws ac oddi yno.