Fel arfer, bydd rhannu tŷ â ffrindiau yn ddewis poblogaidd i fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn. Er y gallai eich plentyn ddewis aros mewn preswylfa eto, mae'n debygol y bydd yn symud i lety preifat er mwyn cael mwy o annibyniaeth. Mae chwilio am dŷ yn gallu peri pryder, a dylech chi fod yn ofalus wrth ddod o hyd i asiant ag enw da i'ch plentyn.
Os bydd eich plentyn yn penderfynu byw oddi ar y campws, mae digon o lety o safon yn y sector preifat yn Abertawe. Rydym ni'n argymell bod ein myfyrwyr yn defnyddio StudentPad Abertawe wrth chwilio am fflatiau neu dai.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn archwilio ardaloedd gwahanol yn Abertawe er mwyn helpu'ch plentyn i wneud y penderfyniad cywir, a gofynnwch gynifer o gwestiynau i'r asiant llety ag y mae eu hangen. Os gallwch chi, cofiwch siarad â'r tenantiaid presennol am eu profiad o fyw yno.
Mae byw mewn llety preifat yn ffordd wych o ymdrochi'n llawn yn ein dinas a'i diwylliant. Bydd yn cynnig mwy o breifatrwydd, a'r gallu i ddewis pwy rydych chi'n byw gyda nhw - sy'n gallu creu profiad gwell i'ch plentyn - a ble rydych chi'n byw. Bydd y rhan fwyaf o lety preifat yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd i fyfyrwyr yn Abertawe, a bydd cysylltiadau trafnidiaeth da a mynediad at siopau, barau a busnesau bwyd.
💡 Er bydd y rhent fel arfer yn rhatach na llety'r Brifysgol, bydd yn rhaid i'ch plentyn dalu am unrhyw filiau a chyfleustodau ychwanegol. Bydd angen iddo reoli ei gyllideb yn ofalus a bod yn ymwybodol o'i hawliau fel tenant. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gofyn a fydd dodrefn yn y llety neu beidio. Os na fydd dodrefn, efallai bydd angen iddo gyllidebu ar gyfer pethau fel gwelyau ac offer cegin.