Byw oddi ar y campws

Mae byw mewn llety preifat yn ffordd wych o ymdrochi'n llawn yn ein dinas a'i diwylliant. Bydd yn cynnig mwy o breifatrwydd, a'r gallu i ddewis pwy rydych chi'n byw gyda nhw, a ble rydych chi'n byw. Bydd y rhan fwyaf o lety preifat yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd i fyfyrwyr yn Abertawe, a bydd cysylltiadau trafnidiaeth da a mynediad at siopau, barau a busnesau bwyd. Fel arfer, bydd rhannu tŷ â ffrindiau yn ddewis poblogaidd i fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn a wedi hynny.

Os ydych yn penderfynu byw oddi ar y campws, ceir digon o lety o safon yn y sector preifat, sydd ar gael drwy Studentpad, ac asiantaethau rhentu preifat:

Os ydych chi'n fyfyriwr sydd am ddod o hyd i fyfyrwyr eraill i fyw gyda nhw, mae grŵp Facebook 'Swansea Uni Student Houses' yn wasanaeth rhad ac am ddim, lle gallwch chi gwrdd a sgwrsio ag eraill sydd eisiau byw ar y cyd yn ardal Abertawe.

Os ydych yn asiant/landlord sy'n dymuno hysbysebu llety myfyrwyr ar Studentpad ewch i'r dudalen Asiant/Landlord.

 

Canllaw i Ardal Abertawe

Brynmill ac Uplands

  • Lleoliadau sy'n boblogaidd ymhlith myfyrwyr ger Campws Parc Singleton (5-15 munud yn cerdded)
  • Amrywiaeth eang o siopau, barrau, tai bwyta a siopau bwyd i'w gludo
  • Fflatiau a thai mwy a rennir yn bennaf (tua 5 ystafell wely)

Sandfields

  • Ardal sy'n boblogaidd ymhlith myfyrwyr yn agos i ganol y ddinas, gyda siopau, barrau a thai bwyta poblogaidd
  • Llety ychydig yn llai, gydag eiddo 2-3 ystafell wely
  • 15-20 munud yn cerdded i Gampws Parc Singleton

Sgeti

  • Ardal sy'n boblogaidd ymhlith myfyrwyr ger Campws Parc Singleton (5 i 15 munud yn cerdded drwy Barc Singleton)
  • Amrywiaeth o siopau, barrau, tai bwyta a siopau bwyd i'w gludo
  • Tai 4-5 ystafell wely yn bennaf

Y Marina

  • Llety moethus, safon uchel wrth ymyl y môr
  • Ardal ddrytach o eiddo en-suite gydag 1/2 ystafell wely
  • 20 i 25 munud yn cerdded i Gampws Singleton a 10 munud ar y bws i Gampws y Bae

St Thomas a Phort Tennant

  • Lleoliad delfrydol ar gyfer Campws y Bae a chanol y ddinas, gyda barrau, siopau a bwytai
  • Tai 4-6 ystafell wely yn bennaf
  • 30 i 45 munud o gerdded neu daith bws fer i Gampws y Bae
Map o ardaloedd Abertawe

Cymorth sydd ar gael