Myfyrwyr ag Anableddau a Gofynion Arbennig
Rydym yn ymrwymedig i roi mynediad i bob myfyriwr ac rydym ni am eich cefnogi gydag unrhyw ofynion arbennig a allai fod gennych. I fyfyrwyr â gofynion penodol, gofynnwn i chi wneud cais cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu gwneud ein gorau glas i ddiwallu eich anghenion.
Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr ag anableddau, anghenion penodol a/neu gyflyrau meddygol yn ystod y broses dyrannu pan fyddant wedi cysylltu â'r Gwasanaeth Anableddau ac wedi darparu'r wybodaeth berthnasol i'r tîm sy'n dyrannu llety.
Er mwyn rhoi’r sylw gorau posibl i’ch cais, mae’r canlynol yn ofynnol:
- Cyflwynwch eich cais erbyn 1 Awst. Gallwch gyflwyno cais, p'un ai bod gennych gynnig Diamod, Amodol, Yswiriant neu Glirio gan y Brifysgol
- Dywedwch wrthym ni ba gymorth mae ei angen arnoch adeg gwneud cais, boed yn en-suite, oergell ar gyfer meddyginiaeth, cyfleusterau wedi'u haddasu neu leoliad eich llety. Byddwch yn benodol ac yn ffeithiol ac amlinellwch yr addasiadau mae eu hangen arnoch.
Dim ond gwybodaeth a ddarperir wrth wneud cais ac argymhellion gan weithiwr proffesiynol meddygol mewn perthynas ag addasiadau y gellir eu hystyried wrth ddyrannu ystafelloedd, felly mae'n hanfodol eich bod chi'n darparu cymaint o wybodaeth gefnogi yn gynnar, ynghyd â'ch cais. Rydym yn dyrannu o fis Chwefror bob blwyddyn i fyfyrwyr â chynigion diamod. Felly, pan fydd ystafelloedd wedi'u dyrannu, ni fyddwn yn gallu prosesu gwybodaeth ychwanegol nas darparwyd adeg gwneud y cais.
Er mwyn cael offer a / neu wneud addasiadau rhesymol, efallai y bydd yn ofynnol i ni gael adroddiad gan Therapydd Galwedigaethol i bennu pa offer yn union y bydd eu hangen. Os bydd hyn yn angenrheidiol, cewch eich hysbysu am hyn gan y tîm llety sy'n ymwneud â'ch cais.
Sefydlwyd ein Gwasanaeth Tele-ofal i gynorthwyo myfyrwyr â chyflyrau meddygol a allai effeithio ar eu gallu i fyw'n annibynnol ym mhreswylfeydd y Brifysgol. Gwneir hyn trwy gyfuniad o gysylltiad dydd a nos dros y ffôn i'r ganolfan fonitro a thechnoleg o'r radd flaenaf. Mae'r swyddfeydd Llety neu Anableddau'n hapus i ddarparu rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar gais.