Trosolwg o'r Cwrs
A oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa gyffrous ym maes amrywiol marchnata, lle y gellir defnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau arbenigol i ragweld ymddygiad cwsmeriaid, creu ymgyrchoedd hysbysebu, rheoli enw da brand a dylanwadu ar y galw am gynnyrch byd-eang? Os felly, mae'r gradd BSc Marchnata gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn ddelfrydol.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes rheoli busnes a marchnata, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Marchnata yn yr Ysgol Reolaeth. Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Marchnata, y cwrs BSc Marchnata gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.
Dros y cwrs pedair blynedd, byddwch yn datblygu dealltwriaeth mewn egwyddorion allweddol marchnata a rheoli wrth datblygu eich gallu marchnata drwy ddilyn pynciau arbenigol fel ymddygiad defnyddwyr, marchnata cyfryngau cymdeithasol, ymchwil i'r farchnad, cyfathrebu marchnata, datblygu ceisiadau a marchnata rhyngwladol.
Gyda'r cwrs hwn byddwch yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa ysgogol fel ymarferwr marchnata ac yn datblygu'r meddwl beirniadol i wneud penderfyniadau marchnata strategol, gwybodus sy'n gwneud gwir effaith ar y byd.
Dewch yn barod am gyfleoedd gyrfaol cyffrous mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys cyfathrebu, cipolygon, cynnwys marchnata, profiad cwsmeriaid, dylanwadwr marchnata ac optimeiddiwr digidol.