Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r Athro Emeritws Roland Wynne Lewis.
Cyflwynwyd y dyfarniad i'r Athro Lewis heddiw (18 Rhagfyr 2019) yn seremoni raddio'r Coleg Peirianneg.
Aeth yr Athro Lewis i Brifysgol Abertawe fel myfyriwr israddedig a myfyriwr ôl-raddedig. Ar ôl graddio, gweithiodd i Esso Petroleum yn Calgary, Houston a Los Angeles, cyn symud yn ôl i Brifysgol Abertawe ym 1969. Yn ystod ei yrfa academaidd yn Abertawe, cydweithiodd yn agos â'r Athro O. C. Zienkiewicz, un o sefydlwyr y dull elfennau cyfyngedig.
Mae cyfraniadau ymchwil yr Athro Lewis at ddaearfecaneg, trosglwyddo gwres a llif hylifau yn adnabyddus yn rhyngwladol. Mae ei gyflawniadau diwydiannol yn cynnwys dylunio a sicrwydd adeileddol gwaith adeiladu Twnnel y Sianel. Bu hefyd yn ymgynghorydd i ffowndrïau Prydeinig ar optimeiddio dyluniad peiriannau Fformiwla Un.
Mae enw da'r Athro Lewis ym maes dulliau cyfrifiadol wedi denu nifer mawr o fyfyrwyr ac ymchwilwyr i Abertawe, ac mae wedi goruchwylio mwy na 65 o fyfyrwyr PhD yn ystod ei yrfa.
Ar hyn o bryd, mae'r Athro Lewis yn Athro Emeritws mewn Peirianneg ac yn gweithio fel mentor i lawer o staff academaidd.
Mae'r Athro Lewis wedi derbyn nifer o anrhydeddau, gan gynnwys rhai gan Gymrodoriaethau'r Academi Frenhinol, Sefydliad y Peirianwyr Sifil a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae wedi cael nifer o athrawiaethau mawreddog ac ymweld mewn nifer o sefydliadau addysg uwch, gan gynnwys Prifysgolion Cape Town, Cornell, Pretoria, IIT Madras, Dalian a Singapôr.
Wrth dderbyn ei radd, dywedodd yr Athro Lewis: "Dychwelais i Goleg Prifysgol Abertawe, fel yr oedd bryd hynny, ym 1970, ar ôl treulio pum mlynedd yn niwydiant petrolewm Gogledd America. Yn ddarlithydd ifanc, roeddwn yn ffodus i ddod i Adran Peirianneg Sifil ffyniannus o dan arweinyddiaeth neilltuol yr Athro O. C. Zienkiewicz. Sicrhaodd rhagoriaeth yr Adran amgylchedd ffyniannus ar gyfer ymchwil elfennau cyfyngedig, a ddenodd nifer o uwch academyddion o bob rhan o'r byd. Yn ogystal, roedd mewnlifiad o fyfyrwyr cartref a rhyngwladol a oedd am astudio yn yr Adran. Aeth nifer o'r rhain ymlaen i fod yn arweinwyr rhyngwladol yn eu maes. Creodd hyn amgylchedd ymchwil neilltuol a roddodd Abertawe ar y map yn fyd-eang. Rwy'n ddiolchgar i'm holl gydweithwyr, staff a myfyrwyr fel ei gilydd - hebddynt, byddai fy mywyd wedi bod yn llawer llai cynhyrchiol a diddorol.”