Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r actores a'r hyrwyddwr actio amatur lleol, Menna Trussler, i gydnabod ei chyfraniadau rhagorol i'r celfyddydau.
Fe'i ganwyd yn Fforestfach ym 1935, ac mae stori seren Pride yn un o wydnwch, angerdd a dilyn ei breuddwydion yn erbyn pob disgwyl.
Dechreuodd ei thaith yng nghanol Cymru, lle cafodd ei chyfleoedd cynnar yng Nghapel y Bedyddwyr lleol wrth sefyll gerbron cynulleidfa, gan danio angerdd a fyddai'n llywio ei dyfodol. Wedi'i magu mewn teulu glofaol, bu tro annisgwyl ar daith Menna Trussler i fod yn enwog pan gyrhaeddodd swyddog ifanc o'r Awyrlu Cynorthwyol i Ferched o'r enw Diane yn ystod blynyddoedd y rhyfel.
Daeth Diane, artist amldalentog, yn fentor i Menna, gan ei hysbrydoli drwy ei doniau actio, dawnsio a cherddorol. Er iddi dyfu i fyny mewn cyfnod pan oedd dilyn gyrfa actio yn ymddangos fel breuddwyd amhosibl, gwnaeth penderfyniad Menna Trussler drechu. Er gwaethaf cael cyngor i fynd i Goleg Technegol Abertawe a dysgu teipio, yn lle hynny bu'n ymgolli ym myd actioamatur, lle ffynnodd ei chariad at actio.
Ei gŵr Jim a roddodd gyngor diffuant iddi, gan ei hannog i ymladd am gydnabyddiaeth yn hytrach nag aros i gael ei darganfod. Cymerodd y cyngor o ddifrif ac aeth at John Chilvers yn Theatr y Grand Abertawe; arweiniodd hyn at ei rôl broffesiynol gyntaf fel rheolwr llwyfan cynorthwyol yn 42 oed, gan ennill ei cherdyn Equity chwenychedig.
Aeth gyrfa Menna Trussler o nerth i nerth oddi yno, gan ymestyn dros feysydd theatr cwmni, sioeau cerdd, pantomeimiau, ac yn y pen draw ar y teledu ac mewn ffilmiau. Mae ei hymddangosiadau nodedig yn cynnwys rolau yn That Uncertain Feeling, The District Nurse, Torchwood, Stella, Casualty, a Little Britain.
Yn 2014, cafodd rôl yn y ffilm boblogaidd Pride, gan rannu'r sgrin ag actorion clodwiw fel Bill Nighy, Imelda Staunton a Dominic West. Yn nes ymlaen yn 2022, enillodd Menna Trussler enwebiad Gwobr yr Academi am ei gwaith llais eithriadol yn y gomedi animeiddiedig fer Affairs of the Art.
Y tu hwnt i'w llwyddiant ar y sgrin, mae Menna Trussler yn parhau i fod â chysylltiad dwfn â'i gwreiddiau, gan gefnogi a hyrwyddo maes actio amatur Abertawe.
Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Menna Trussler: "Rwy' wrth fy modd yn derbyn y radd er anrhydedd hon gan Brifysgol Abertawe. Pan fyddwch chi'n ymddeol o fyd actio does dim parti, dim cloc fel anrheg, rydych chi'n gorffen a dyna fe. Felly, rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr bwysig hon.
"Mae Prifysgol Abertawe yn golygu cymaint i fy nheulu; astudiodd fy ngŵr Jim yma ddiwedd y 1940au ac mae gen i ŵyr, Oliver, a ddylai fod yn graddio o fan hyn yr haf nesaf!"